Ewch i’r prif gynnwys

Hanesydd yn ennill gwobr ryngwladol

13 Tachwedd 2014

Garthine Walker

Mae hanesydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr o fri rhyngwladol am ei gwaith arloesol ar drais rhywiol yn y cyfnod modern cynnar.

Mae Dr Garthine Walker, sy'n Ddarlithydd Hanes yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, wedi ennill Gwobr Sutherland am ei herthygl 'Rape, Acquittal and Culpability in Popular Crime Reports in England, c.1670–c.1750', a gafodd ei chyhoeddi yn y cylchgrawn hanes proffesiynol Past & Present yn 2013.

Dyfarnir y wobr yn flynyddol gan Gymdeithas America ar gyfer Hanes Cyfreithiol am yr erthygl orau ar hanes cyfreithiol Lloegr a gyhoeddwyd y flwyddyn flaenorol.

Mae'r erthygl fuddugol yn dangos nad oedd pobl fodern, gynnar yn esbonio'r gyfradd uchel o ryddfarniadau am drais rhywiol yn nhermau naill ai cyhuddiadau ffug gan fenywod neu roi'r bai ar ddioddefwyr. I'r gwrthwyneb, roedd barnwyr, rheithwyr a newyddiadurwyr yn cwyno bod llawer o ddynion euog yn cerdded yn rhydd oherwydd bod y meini prawf cyfreithiol ar gyfer trais rhywiol yn rhy anodd eu bodloni. Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch beth a newidiodd a phryd, ac mae Dr Walker yn archwilio hyn ymhellach yn ei gwaith ymchwil presennol, yn enwedig y ffyrdd y daeth rhoi'r bai ar ddioddefwyr yn rhan allweddol o achosion trais rhywiol gyda chyflwyniad cynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer yr amddiffyniad ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Ar glywed y newyddion am y wobr, a gyhoeddwyd y penwythnos diwethaf yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas America ar gyfer Hanes Cyfreithiol a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau, dywedodd Dr Walker: "O ystyried ansawdd cyn-dderbynwyr y wobr hon a'r parch tuag atynt, mae'n fraint fawr i mi bod fy ngwaith wedi'i ddewis gan bwyllgor y wobr fel yr erthygl orau ar hanes cyfreithiol Lloegr. Mae'n anrhydedd arbennig i hanesydd cymdeithasol ennill gwobr mor fawreddog ym maes hanes cyfreithiol."

Rhannu’r stori hon