Ewch i’r prif gynnwys

‘Gefell drwg’ cudd newid yn yr hinsawdd

13 Tachwedd 2014

Beach

Yn ôl canlyniadau arolwg cenedlaethol newydd o bwys a gyhoeddwyd gan y Brifysgol, mae gan fwyafrif o aelodau'r cyhoedd ym Mhrydain ymwybyddiaeth fach iawn o asideiddio cefnforol, gydag oddeutu dim ond un o bob pump o gyfranogwyr yn dweud eu bod hyd yn oed wedi clywed am y mater .

Ar hyn o bryd, mae'r cefnforoedd yn amsugno llawer iawn o garbon deuocsid a ollyngir i'r atmosffer gan weithgarwch dynol. Mae amsugno CO2 yn arwain at ostyngiad yn pH dŵr y môr – a elwir yn 'asideiddio cefnforol'. Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol diweddar ar Newid yn yr Hinsawdd, mae asideiddio cefnforol yn agwedd gudd ar y cynnydd mewn allyriadau carbon byd-eang ac mae'n fygythiad i ddyfodol amrywiaeth o ecosystemau morol a'r cymdeithasau sy'n dibynnu arnynt.

Er bod llawer o agweddau eraill ar newid yn yr hinsawdd byd-eang yn cael eu cydnabod yn hawdd gan y cyhoedd yn gyffredinol, rydym yn gwybod llawer llai am sut y maent yn gweld asideiddio cefnforol. Mae ymchwilwyr o'r Ysgol Seicoleg wedi cynnal yr arolwg cynhwysfawr cyntaf o farn y cyhoedd ym Mhrydain ar y pwnc hwn, gan gyfweld â dros 2,500 o bobl ledled y wlad.

Mae'r astudiaeth yn datgelu:

Ymwybyddiaeth isel iawn o asideiddio cefnforol:

  • Dim ond tua un o bob pum cyfranogwr a nododd eu bod hyd yn oed wedi clywed am asideiddio cefnforol. Ymhlith y rhai sy'n dweud eu bod wedi clywed amdano, roedd lefelau gwybodaeth a hunan-adroddwyd am y pwnc yn isel iawn.
  • Yn ogystal, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gynnydd sylweddol mewn lefelau ymwybyddiaeth yn dilyn adroddiadau gwyddonol y Panel Rhynglywodraethol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2014.

Mae rhai pobl yn cysylltu asideiddio cefnforol â newid yn yr hinsawdd

  • Mae'r term Asideiddio Cefnforol ei hun yn ysgogi cysylltiadau â llygredd a chanlyniadau amgylcheddol negyddol. Mae cyfran ryfeddol o fawr o'r bobl a holwyd (38%) hefyd yn priodoli allyriadau carbon anthropogenig yn gywir fel prif achos asideiddio cefnforol, ond mae tua'r un nifer (34%) yn meddwl ei fod yn cael ei achosi gan 'lygredd' o longau.
  • Cafodd difrod i greigresi cwrel a chanlyniadau ar gyfer organebau morol eu cydnabod yn gywir gan lawer o bobl fel canlyniadau pwysig asideiddio cefnforol.

Mae pryder yn cynyddu gyda gwybodaeth. Mae drwgdybiaeth yn parhau.

  • Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn y lle cyntaf yn mynegi pryder ynghylch asideiddio cefnforol, pan roddir rhywfaint o wybodaeth ychwanegol sylfaenol iddynt, mae mwyafrif eglur (64%) yn mynegi pryder ynghylch y pwnc.
  • Roedd hanner y bobl a holwyd o'r farn y dylai asideiddio cefnforol fod yn flaenoriaeth weddol uchel neu uchel iawn ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Prydain, er mai ychydig iawn sy'n ymddiried yn y Llywodraeth i roi gwybodaeth gywir ynghylch y mater.

Esboniodd yr Athro Nick Pidgeon, o Grŵp Ymchwil Deall Risg Prifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Seicoleg, sy'n arwain y tîm a gynhaliodd y gwaith ymchwil:

"Mae asideiddio cefnforol yn un o effeithiau cudd allyriadau carbon – a ddisgrifir yn aml fel 'gefell drwg' newid yn yr hinsawdd. Er bod y dystiolaeth wyddonol yn dangos yn gynyddol y bydd yn hanfodol bwysig i iechyd bywyd morol yn y dyfodol, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd yn parhau i fod yn ystyfnig o isel. Serch hynny, mae'n galonogol gweld bod llawer o bobl a gymerodd ran yn yr ymchwil wedi dechrau pryderu ynghylch y mater, pan gafodd hyn ei esbonio'n briodol iddynt. Mae'r canlyniadau'n dangos angen clir i gynnwys y cyhoedd ymhellach mewn ffyrdd mwy arloesol, drwy newid y naratif am newid yn yr hinsawdd i bwysleisio ymhellach y risg amgylcheddol pwysicaf hwn."

Ariannwyd yr arolwg gan Raglen Asideiddio Cefnforol y DU. Cafodd ei gynnal gan ymchwilwyr o Ganolfan Tyndall a Chonsortiwm Newid yn yr Hinsawdd Cymru sy'n rhan o Ysgol Seicoleg ac Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd. Cafodd sampl gynrychioliadol o gyfanswm o 2,501 o aelodau'r cyhoedd ym Mhrydain eu cyfweld gan Ipsos-Mori mewn dwy don ym mis Medi 2013 (n = 1,001) a mis Mai 2014 (n = 1,500).

Rhannu’r stori hon