Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth yn arloesi gyda phigiadau inswlin mwy diogel

10 Gorffennaf 2017

NeedleBay

Mae gwaith gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos y gallai dyfais ar gyfer hunanreoli meddyginiaeth diabetes arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG.

Casglodd arbenigwyr adborth ar ddyfais hunanreoli inswlin NeedleBay, gan helpu Diabetes Care Technology i ddeall a datblygu eu cynnyrch.

Mae NeedleBay'n caniatáu i'r defnyddiwr baratoi nodwyddau inswlin wythnos o flaen llaw, eu gosod a'u tynnu’n ddiogel o'r pin inswlin a gwaredu rhai sydd wedi'u defnyddio heb gyffwrdd â nhw.

Dangosodd yr ymchwil dan arweiniad yr Athro Molly Courtenay  yn  Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Caerdydd i'r cwmni sut roedd NeedleBay'n perfformio - gan roi adborth ar ffyrdd i'w wneud yn fwy effeithiol.

Dywedodd yr Athro Courtenay: "Datblygon ni holiadur a gynhaliwyd dros y ffôn gyda chleifion oedd wedi defnyddio system NeedleBay. Roedd yn holi am eu profiadau'n chwistrellu eu hunain gydag inswlin cyn iddyn nhw ddefnyddio'r system, ac yna ar ôl defnyddio'r system."

Ers defnyddio'r system, dyw Carole Terrett, claf o Lyn Ebwy sy'n gyn-weithiwr ysbyty, ddim wedi cael 'hypo', lle'r oedd lefel ei glwcos yn rhy isel, na 'hyper' lle'r oedd y lefel yn rhy uchel.

"Rwyf i'n glaf diabetes Math 2, ac yn cymryd inswlin bob bore gyda thabledi, a gyda'r nos. Bob nos Sul rwy'n llenwi'r NeedleBay. Mae gen i ddwy nodwydd yn y pod, ac mae'r ddyfais yn fy helpu i reoli'r pigiadau, ac yn fy atgoffa os wyf i wedi neu heb gymryd y dogn, gan wneud yn siŵr nad wyf i'n rhoi dogn dwbl hefyd."

Dysgu mwy.

Cyn defnyddio NeedleBay, roedd dros ddwy ran o dair o'r 226 cyfranogwr yn yr arolwg wedi colli pigiadau inswlin neu wedi cymryd dogn dwbl yn ddamweiniol. Yn ystod eu cyfnod yn defnyddio'r ddyfais gostyngodd y nifer o gleifion oedd yn gwneud y camgymeriadau hyn i 20%.

Dywedodd Dr Judith Carrier, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, fod yr arolwg yn dangos bod NeedleBay yn cael effaith ddramatig ar ddefnyddwyr.

"Nid effaith fach yn unig oedd hon. Roedd pobl yn dod yn ôl ac yn dweud 'Ydy, mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy rheolaeth gyffredinol dros ddiabetes'. Ac roedd yn gymorth arbennig i ddefnyddwyr gyda rhyw fath o anabledd."

Cafwyd gostyngiad amlwg hefyd yn y nifer o bobl oedd yn eu pigo eu hunain yn ddamweiniol wrth osod neu dynnu'r pin inswlin o'r nodwydd, a chynnydd o 20% i 99% yn y nifer o bobl oedd yn gyffredinol yn teimlo  bod eu meddyginiaeth dan reolaeth.

Mae Andrew Tasker, Prif Weithredwr Diabetes Care Technologies, yn gobeithio gweithio gyda Chaerdydd ar brosiectau eraill yn y dyfodol.

"Yr hyn sy'n arbennig o ddeniadol wrth weithio gyda Phrifysgol Caerdydd yw bod eu mentrau'n cynnig elfen glinigol 'byd real' gan ymdrin â defnyddwyr a chleifion sy'n defnyddio'r cynnyrch yn y gymuned, a dyna oedd y gwahaniaeth gwirioneddol yr oedd Caerdydd yn ei wneud i'r astudiaeth hon. Mae hefyd yn rhoi data real i ni i ddangos sut gall y cynnyrch arbed miliynau i'r gwasanaeth iechyd."

Andrew Tasker Prif Weithredwr, Diabetes Care Technologies

Ychwanegodd yr Athro Molly Courtenay: "Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd angen inswlin yn gallu rheoli eu meddyginiaeth yn briodol. Os na chaiff lefelau glwcos eu cynnal ceir risg o gymhlethdodau gan gynnwys colli golwg, methiant yr arennau neu glefyd cardiofasgwlaidd. Mae NeedleBay yn golygu bod cymryd a storio inswlin yn hawdd iawn i'r claf."

Mae data'n dangos bod 177,000 o bobl yng Nghymru'n byw gyda diabetes. Roedd gan tua 3.8 miliwn o bobl dros 16 oed yn Lloegr ddiabetes yn 2015, tua 9% o'r boblogaeth oedolion.

"O ystyried bod pedair o bob pum punt o wariant y GIG ar ddiabetes yn mynd ar drin cymhlethdodau a achosir gan ymlyniad inswlin gwael, mae'r arbedion posibl, a'r manteision i gleifion, yn sylweddol."

Yr Athro Molly Courtenay Athro Gwyddorau Iechyd

Yn ogystal â datblygu NeedleBay, mae'r Athro Courtney wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i ddatblygu rôl rhagnodwyr anfeddygol yng Nghymru.

Mae deddfwriaeth a gyflwynwyd dros ddegawd yn ôl i ganiatáu nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig i ragnodi meddyginiaethau wedi cynyddu hygyrchedd y gwasanaethau a chynyddu arbedion cost.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.