Ewch i’r prif gynnwys

Addewid i weini miliynau o brydau pysgod cynaliadwy

26 Tachwedd 2014

Fish

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â sefydliadau eraill yn y Ddinas i fod y cyntaf i ymrwymo i gael gwared ar bob rhywogaeth mewn perygl o fwydlenni a hybu pysgod sy'n fwy cynaliadwy yn lle hynny.

I ddathlu Diwrnod Pysgodfeydd y Byd, a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, addawodd tri o brif arlwywyr Caerdydd, sy'n gweini dros dair miliwn o brydau bwyd bob blwyddyn, i gynorthwyo drwy addo i weini pysgod cynaliadwy yn unig. Bydd plant ysgol, myfyrwyr prifysgol, cleifion mewn ysbytai a staff y GIG ledled Caerdydd yn cael cynnig pysgod cynaliadwy fel rhan o ymgyrch i wneud Caerdydd yn Ddinas Pysgod Cynaliadwy gyntaf y byd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac adran Arlwyo Addysg Cyngor Dinas Caerdydd i gael gwared ar bob rhywogaeth mewn perygl o'u bwydlenni a hybu pysgod sy'n fwy cynaliadwy yn lle hynny. Bydd hyn yn cynnwys pysgod wedi'u hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol a physgod sydd ar restr 'pysgod i'w bwyta' y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Mae'r addewid hon yn rhan o ymgyrch y ddinas i ddod yn ddinas pysgod cynaliadwy gyntaf y byd.

Dywedodd Clive Newton, sy'n rheolwr arlwyo a bariau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fel rhan o Bolisi Bwyd Cynaliadwy'r Brifysgol, rydym wedi llofnodi'r addewid Dinas Pysgod Cynaliadwy a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n cyflenwyr i ddatblygu polisi o weini pysgod wedi'u hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol a physgod sydd wedi'u graddio'n "Bysgod i'w Bwyta" gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn unig yn ein hunedau Arlwyo."

Mae Dinas Pysgod Cynaliadwy yn grŵp ymgyrchu a gydlynir gan Sustain, sef y gynghrair ar gyfer bwyd a ffermio gwell. Arweinir yr ymgyrch hon sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd gan Fwyd Caerdydd sy'n awyddus i gael busnesau, bwytai a lleoliadau i gofrestru ar gyfer polisi pysgod cynaliadwy.

Rhannu’r stori hon