Ewch i’r prif gynnwys

CS Connected yn uno’r clwstwr

10 Gorffennaf 2017

CS chip

Mae diwydiannau, buddsoddwyr a’r llywodraeth wedi dod ynghyd i dynnu sylw ar frand lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd.

Mae CS Connected yn uno partneriaid sydd yn datblygu’r clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf yn y byd, sydd wedi ei leoli yn ne Cymru.

Wrth rhannu platfform mewn digwyddiad Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, eglurwyd sut mae CS Connected yn cyfuno busnesau rhyngwladol, gwneuthurwyr polisi ac academyddion sy’n creu technoleg y genhedlaeth newydd a all wneud Cymru’n arweinydd y byd.

Ymunodd Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion â’r cynhyrchydd wafferi IQE, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Y Ganolfan Led-ddargludyddion Cyfansawdd, Hwb Cynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC a Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd er mwyn cyflwyno brand CS Connected.

Meddai Dr Andy Sellars, Prif Swyddog Datblygu Busnes, Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion:  "Mae catapyltiau yn hyrwyddo cydweithio dan arweiniad busnes, gan helpu i droi syniadau newydd yn realiti masnachol. Fel aelod annatod o CS Connected, mae’r Catapwlt yn ategu'r cyfleusterau eraill o fewn clwstwr de Cymru..."

"Mae'r digwyddiad hwn wedi anfon neges gref a chlir iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau llwyddiant."

Dr Andy Sellars Prif Swyddog Datblygu Busnes, Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion

Dywedodd Dr Wyn Meredith, Prif Swyddog Gweithredol y Ganolfan Led-ddargludyddion - partneriaeth ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQW: “Mae gennym ambell neges eithaf cymhleth y mae’n rhaid i ni eu cyfleu. Rydym wedi mynd heibio’r cam cyllido, a bellach mae’n rhaid canolbwyntio ar yr adeiladu a’r cyflawni yn yr hir dymor. Nid prosiect dwy flynedd, na phrosiect pum mlynedd ydyw..."

"Dyma brosiect 20 mlynedd sy’n gyfle euraid i dde Cymru."

Dr Wyn Meredith Cyfarwyddwr, Y Ganolfan Led-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae technoleg silicon wedi bod yn rym amlwg yn ein cymdeithas wybodaeth heddiw, ond yn amlach byth, mae galwadau am well perfformiad yn dibynnu ar dechnolegau uwch ar ffurf lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy’n cynnig cyflymder peth ganwaith yn gynt, ynghyd ag ystod eang o alluoedd ffotonig.

Yng Nghaerdydd y mae pencadlys gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion mwyaf blaenllaw y byd, IQW plc. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â’u cadwyn gyflenwi, y Brifysgol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i droi ymchwil yn realiti masnachol.

Meddai’r Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr, Hwb Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC: "Fel Hwb, rydym yn ceisio newid meddylfryd academyddion a’u cymell i feddwl am sut y gall eu syniadau newydd gael eu cynhyrchu..."

"Mae angen ar CS Connected bobl â sgiliau, a dyna pam rydym yn cychwyn cyrsiau MSc newydd mewn Technoleg Lled-ddargludyddion, sy’n dechrau ym mis Medi. Mae gennym rhyw gymaint o safleoedd PhD i’w llenwi. Bydd y rhain oll yn gyfleoedd ymarferol i sicrhau bod graddedigion yn barod ar gyfer y byd gwaith a’u bod yn gallu mynd yn syth i mewn i’r diwydiant."

Yr Athro Peter Smowton Deputy Head of School and Director of Research

Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sydd wedi bod yn hyrwyddo rhyngweithiadau busnes-brifysgol am dros 20 mlynedd.