Ewch i’r prif gynnwys

Gall mwtaniad genyn achosi camffurfedd mewn plant

5 Gorffennaf 2017

Genes - green

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Université Libre de Bruxelles wedi canfod sut mae swyddogaeth genyn allweddol yn effeithio ar dwf celloedd bonyn nerfol, a sut y gall arwain at ddatblygiad ymennydd annormal mewn babanod os yw’r system yn mynd o chwith.

Dengys yr ymchwil newydd gan yr Athro Meng Li rôl ganolog genyn Dmrta2 wrth reoleiddio ymraniad celloedd a chynhyrchu celloedd arbenigol.

Mae'r darganfyddiad hwn yn dangos bod mwtaniad genyn Dmrta2, os caiff ei etifeddu gan y fam a’r tad, yn arwain at fath o gamffurfiadau i’r ymennydd o'r enw lisenseffali, anhwylder system nerfol prin lle nad yw ymennydd y baban wedi datblygu’n llawn.

Dysgu a sgiliau iaith

Mae’r cyflwr hwn yn digwydd yn ail/trydydd tymor beichiogrwydd, gan adael y plentyn ag ymennydd bychan a llyfn am ei fod yn rhwystro datblygiad plygion (gyri) a rhigolau (sulci) y mae eu hangen er mwyn dysgu a sgiliau iaith.

“Mae Dmrta2 yn rhan o’r peirianwaith sydd yn gyfrifol am fesur a oes digon o gelloedd yn cael eu cynhyrchu ar gyfer ymennydd optimaidd-gytbwys a datblygedig” eglura’r Athro Li.

“Sicrha fod celloedd bonyn yr ymennydd yn lluosogi ar adegau priodol yn ystod datblygiad y ffetws a’u bod yn cynhyrchu niferoedd digonol o fôn-gelloedd yr ymennydd...”

“Heb y genyn hwn, byddai bôn-gelloedd nerfol yn newid model ymraniad celloedd yn rhy gynnar i wneud celloedd ymennydd arbenigol gan arwain at ganlyniadau niweidiol.”

Yr Athro Meng Li Chair in Stem Cell Neurobiology, Institute of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Fe wnaeth ymchwilwyr fwtadu’r genyn Dmrta2 mewn bôn-gelloedd embryonig er mwyn archwilio effaith lefelau gormodol neu annigonol o brotein ar ddatblygiad yr ymennydd. Wedyn fe archwiliodd y tîm effaith y newidiadau hyn ar gelloedd a grëwyd mewn labordy, gan ddangos cysylltiad unionyrchol rhwng mwtadiad Dmrta2 ac achosion micrseffali (math o lisenseffali).

Awtistiaeth ac anawsterau dysgu

Dywed y Prif Ymchwilydd, Dr Fraser Young: “Heblaw bod y genyn Dmrta2 yn cynnal y cydbwysedd bregus rhwng niwrogenesis a dilyniant cylchred celloed, caiff datblygiad yr ymennydd ei newid.

“Gall gwallau mewn penderfyniadau tynged bôn-gelloedd nerfol gyfrannu at gyflyrau niwroddatblygiadol eraill megis awtistiaeth ac anawsterau dysgu.

“Pe gallem ganfod pam mae rhai plant yn fwy tebygol o bosib i fagu anhwylderau niwroddatblygiadol, byddem mewn sefyllfa well o lawer i edrych ar ffyrdd o drin neu atal cyflyrau o'r fath rhag digwydd yn effeithiol.”

Ariennir yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil Feddygol y DU (MRC) a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd (NMHRI), gyda chredyd i Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Niwrowyddoniaeth ULB (UNI), a Université Libre de Bruxelles (ULB) Grosselies, yng Ngwlad Belg.

Cyd-ysgrifennwyd y papur ‘The Doublesex-related Dmrta2 safeguards neural progenitor maintenance involving transcriptional regulation of Hes1’, gan Eric J Bellefroid o Université Libre de Bruxelles ac fe’i cyhoeddwyd yng nghyfnodolynPNAS.

Rhannu’r stori hon

Mae datblygiadau mewn ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn golygu ein bod cam yn agosach at ddatrys y dirgelion tu ôl i anhwylderau seiciatrig a niwoddirywiol.