Ewch i’r prif gynnwys

Sefydlu’r Brifysgol fel y ‘Brif Ganolfan Niwroddelweddu Ewropeaidd’

19 Chwefror 2015

Siemens MR scanner

Mae'r Brifysgol wedi cadarnhau ei chynlluniau i ddefnyddio uwch-dechnoleg delweddu MR o fewn Canolfan newydd Prifysgol Caerdydd ar gyfer Delweddu Ymchwil i'r Ymennydd (CUBRIC), gan geisio sicrhau mai un o gyfleusterau delweddu'r ymennydd gorau Ewrop yw'r ganolfan.

Bydd y ganolfan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hadeiladu, yn chwarae rhan ganolog yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall yn well achosion cyflyrau niwrolegol megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, a chaiff ei chynorthwyo drwy bartneriaeth gyda Siemens Healthcare.

Bydd y cyfleuster CUBRIC £44 miliwn yn cynnig arbenigedd o'r radd flaenaf mewn mapio a symbylu'r ymennydd, wedi'i alluogi gan dechnoleg MR sydd ar flaen y gad. Bydd y cytundeb gyda Siemens Healthcare yn sicrhau cyflwyno cyfuniad o systemau MR blaenllaw a fydd yn cefnogi'r cyfleuster wrth iddo geisio dadorchuddio cliwiau hanfodol er mwyn datblygu triniaethau gwell.

Caiff pedair system MR newydd gan Siemens Healthcare eu gosod i'r cyfleuster ar ddechrau 2016: MAGNETOM® 7T, sganiwr MAGNETOM Connectom 3T gyda graddiannau 300mT/m a dwy system MAGNETOM Prisma. Hwn fydd gosodiad cyntaf y DU o'r Connectom 3T a dim ond yr ail yn y byd; mae'r cyntaf wedi'i osod yn Ysbyty Gyffredinol Massachusetts yn Boston, UDA. Mae'r Brifysgol yn prynu'r darnau pwysig o offer delweddu hyn gyda chymorth gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol  (EPSRC), y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a Llywodraeth Cymru.

"Mae cydleoli'r system 7 Tesla  a system delweddu microstrwythurol Connectom yn gyfuniad hynod bwerus ar gyfer archwilio strwythur a swyddogaeth biocemeg yr ymennydd, gan ein galluogi i ateb cwestiynau a oedd yn gyfyngedig oherwydd technoleg o'r blaen. Erbyn hyn mae gennym y dechnoleg honno," meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC. "Ynghyd â'r cyfleusterau magnetoenceffalograffeg, EEG a symbylu'r ymennydd o fewn y ganolfan newydd, bydd gennym set gwbl unigryw o offer a fydd yn ein galluogi i nodweddu'r ymennydd iach a'r ymennydd afiach."

Ychwanega'r Athro Derek Jones: "Bydd y bartneriaeth bwysig newydd hon rhwng Prifysgol Caerdydd a Siemens yn cyflwyno nid yn unig y trydydd sganiwr MRI 7 Tesla MRI yn y DU ond yn ogystal y sganiwr Connectom 3T cyntaf i'w adeiladu yn Ewrop. Bydd yr unigrywiaeth hon yn adeiladu ar ein set helaeth o gydweithio cyfredol ac yn sicrhau bod CUBRIC yn uwchganolbwynt ar gyfer Niwroddelweddu yn Ewrop." 

Mae Peter Harrison, Rheolwr Gyfarwyddwr Isadran Gofal Iechyd Siemens plc, yn datgan: "Mae Siemens wedi ymrwymo i symud ymchwil feddygol ymlaen ac i gefnogi cleifion. Rydym wrth ein bodd ein bod yn darparu technoleg MR o'r radd flaenaf ac adnoddau gwleidyddol er mwyn cefnogi cyfleuster mawreddog CUBRIC.  Rydym yn cefnogi gweledigaeth CUBRIC ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at helpu'r Athro Derek Jones a'i dîm i wireddu eu huchelgeisiau cyffrous. Mae graddfa llwyr prosiect CUBRIC yn creu argraff anhygoel, ac felly hefyd bwriad y tîm i sicrhau nad dim ond cyfleuster cenedlaethol yw hwn, ond cyfleuster Ewropeaidd."

Mae Caerdydd, yn swyddogol, yn un o dair prifysgol orau'r DU o ran ei hymchwil sy'n arwain y byd, mewn seicoleg, seiciatreg, a'r niwrowyddorau.Mae'r Brifysgol eisoes yn gartref i rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd o ran mapio'r ymennydd, y niwrowyddorau, ymchwil glinigol a geneteg, a chaiff ei hadnabod yn eang am ei ragoriaeth o ran ymchwil yn y maes hwn.

Mae Siemens Healthcare yn un o gyflenwyr mwyaf y byd i'r diwydiant gofal iechyd ac mae'n arwain y ffordd o ran delweddu meddygol, diagnosteg labordai, technoleg gwybodaeth feddygol a theclynnau clyw. Mae Siemens yn cynnig cynnyrch ac atebion i'w gwsmeriaid ar gyfer ystod gyfan gofal iechyd o ffynhonnell unigol - o atal a chanfod yn gynnar i ddiagnosis, ac ymlaen at driniaeth ac ôl-ofal. Trwy optimeiddio llif gwaith clinigol ar gyfer y clefydau mwyaf cyffredin, mae Siemens hefyd yn sicrhau bod gofal iechyd yn gyflymach, yn well ac yn fwy cost-effeithiol. Mae Siemens Healthcare yn cyflogi rhyw 52,000 o weithwyr ledled y byd ac yn gweithredu ym mhob cwr o'r byd.