Ewch i’r prif gynnwys

Syr Donald Walters

5 Gorffennaf 2017

Sir Donald Walters with portrait

Mae’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, wedi talu teyrnged i gyn-Gadeirydd y Cyngor, Syr Donald Walters, sydd wedi marw.

Roedd Syr Donald Walters yn ffigwr hollbwysig yn hanes Prifysgol Caerdydd. Dechreuodd ei gysylltiad hir â’r Brifysgol ym 1988 pan gafodd ei ethol yn Gadeirydd Cyngor y Brifysgol.

Bu’n Gadeirydd am 10 mlynedd ac yn aelod hynod weithgar o’r Cyngor wedi hynny hyd at fis Gorffennaf 2010. Bu hefyd yn Is-Lywydd y Brifysgol, yn Ddirprwy Ganghellor ac yn Gadeirydd Cronfa Bensiynau Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Riordan: “Gyda thristwch mawr y clywodd y Brifysgol am farwolaeth Syr Donald Walters...”

“Yn sgîl ei graffter ariannol a sefydliadol o’r byd masnachol ac fel bargyfreithiwr, fe gynorthwyodd i reoli’r Brifysgol yn llwyddiannus ar ôl uno Coleg Prifysgol Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru. Fe wnaeth hynny helpu i osod y sylfeini ar gyfer ein Prifysgol Caerdydd lwyddiannus sydd gennym heddiw.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

“Bydd yn cael ei gofio hefyd am ei ddiddordeb yng nghymuned ein myfyrwyr. Mae gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd atgofion melys o Syr Donald.

“Mae gan y Brifysgol ddyled fawr o ddiolch i Syr Donald. Bydd colled ar ei ôl.”

Allweddol yn natblygiad Cymru fodern

Nid ym Mhrifysgol Caerdydd yn unig yr oedd Syr Donald yn ddylanwadol, gan ei fod wedi bod yn allweddol yn natblygiad Cymru fodern hefyd.

Roedd ganddo sawl rôl allweddol yn Awdurdod Datblygu Cymru; Bwrdd Datblygu Cymru Wledig; Sefydliad Materion Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Llandoche.

Cafodd ei wneud yn farchog ym 1983 a bu’n Uchel Siryf De Morgannwg ym 1987-88. Roedd Syr Donald hefyd yn glerc i Ddeon a Phennod Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Ychwanegodd yr Athro Riordan: “Ar ran Prifysgol Caerdydd, rwy’n cydymdeimlo’n ddwys â theulu Syr Donald ar adeg mor anodd.”

Rhannu’r stori hon

Staff members can submit an obituary.