Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth o Gaerdydd i'w gweld yn arddangosfa flynyddol y Gymdeithas Frenhinol

4 Gorffennaf 2017

Cardiff research exhibition

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn arddangos eu hymchwil sy'n arwain y byd i dros 15,000 o aelodau o'r cyhoedd yr wythnos hon fel rhan o Arddangosfa Haf y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain.

O bŵer catalysis i ffyrdd newydd o arsylwi ar y bydysawd, bydd y cyhoedd yn gallu gweld sut mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth ar hyn o bryd.

Bydd arddangosfa 'Zoom for Improvement’, a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Catalysis Caerdydd, yn dangos sut mae maes catalysis yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r nwyddau, gwasanaethau ac ynni rydyn ni'n eu defnyddio o ddydd i ddydd.

Dyfodol mwy cynaliadwy

Catalysis yw'r broses sy'n gwneud adweithiau cemegol yn fwy effeithlon ac yn gyflymach, ac mae'n gweithio drwy gyflwyno amrywiaeth o ddeunyddiau - a elwir yn gatalyddion - i'r adwaith.

Drwy gydol yr wythnos, bydd ymwelwyr â'r arddangosfa'n dysgu sut mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn datblygu catalyddion i greu dyfodol mwy cynaliadwy, boed drwy greu tanwydd glanach a mwy effeithlon, lleihau llygredd, cynhyrchu dŵr yfed mwy diogel neu drawsnewid biomas yn gemegau defnyddiol.

Cânt hefyd weld sut mae'r gwyddonwyr yn mynd ati i wneud hyn yn y labordy, a dysgu am y ffyrdd y caiff atomau unigol eu hastudio, un wrth un, gan ddefnyddio microsgopau pwerus iawn er mwyn deall proses catalysis ar y raddfa leiaf bosibl.

“Mae catalysis yn sector sy'n symud yn gyflym ac sy'n ein helpu i gynhyrchu ynni, bwyd a deunyddiau fel plastigau a lleihau ein heffaith amgylcheddol.”

Yr Athro David Willock Senior Lecturer in Physical Chemistry

“Mae'r ddealltwriaeth ar raddfa atomig mae microsgopeg a delweddu pelydr-x yn ei darparu yn ein helpu i ddeall sut mae catalyddion yn gweithio ar y lefel sydd ei hangen ar gyfer cynllunio deunyddiau newydd yn arloesol,” dywedodd Dr David Willock.

Listening to Einstein’s Universe

Gan symud o raddfa fach i raddfa fawr, dafliad carreg o'r arddangosfa hon bydd grŵp arall o wyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn siarad am dyllau du'n gwrthdaro ac uwchnofâu anferth.

Yn yr arddangosfa 'Listening to Einstein’s Universe’ bydd y Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol yn egluro sut y llwyddodd tîm o 1000 o wyddonwyr - a adwaenir fel LIGO - i ddarganfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf.

gravitational waves black holes
Credit: LSC/Sonoma State University/Aurore Simonnet

Caiff y crychau bach hyn sy'n teithio drwy ofod ac amser eu hallyrru ar ôl digwyddiad treisiol yn y Bydysawd, fel dau dwll du'n gwrthdaro, a dim ond tair gwaith maen nhw wedi'u gweld erioed ers iddyn nhw gael eu canfod am y tro cyntaf yn 2016.

Mae gwyddonwyr bellach yn gallu defnyddio'r tonnau disgyrchol hyn fel telesgop, gan edrych yn ôl mewn amser i astudio sut mae digwyddiadau eithafol yn datblygu yn y Bydysawd.

Yn yr arddangosfa, bydd ymwelwyr yn dysgu sut mae gwyddonwyr yn mynd ati i ganfod signal hynod o fach ton ddisgyrchol wrth iddi daro’r Ddaear, a bydd modd iddyn nhw hefyd gymryd rhan mewn gêm ryngweithiol lle gallan nhw chwilio drwy'r Bydysawd am dyllau du.

Dywedodd Dr Chris North, Cymrawd Ymgysylltu Cyhoeddus STFC yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Mae oes seryddiaeth Tonnau Disgyrchol wirioneddol wedi dechrau, ac mae'n gyffrous iawn cael siarad am y datblygiadau technolegol a gwyddonol syfrdanol sydd ar waith...”

“Cyflwyno ein hymchwil i'r cyhoedd yw un o uchafbwyntiau'r swydd ac mae gwneud hynny mewn lleoliad mor fawreddog â'r Gymdeithas Frenhinol yn fraint.”

Dr Chris North Cymrawd Ymgysylltu Cyhoeddus STFC

Bydd Arddangosfa Haf y Gymdeithas Frenhinol yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 4 Gorffennaf a dydd Sul 9 Gorffennaf ym mhencadlys y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau, gan gynnwys 22 arddangosiad ac amrywiaeth o sgyrsiau a gweithgareddau. I gael rhagor o wybodaeth ewch yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Gymdeithas Frenhinol yn Gymrodoriaeth o 1400 unigolyn arbennig sy'n cynrychioli pob agwedd o wyddoniaeth, peirianneg a meddygaeth.