Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr a staff yn cydweithio ar ddysgu hygyrch

3 Gorffennaf 2017

Filming video on camera

Mae prosiect ar y cyd rhwng myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a Dr Cameron Gardner yn gweithio i gyflwyno fideos eglur a hygyrch ym modiwlau craidd yr Ysgol Gerddoriaeth.

Mae Chris Davis a Johanna Williams, myfyrwyr ail flwyddyn, yn gweithio gyda Dr Gardner i gynhyrchu cyfres o fideos a fydd, gobeithio, yn ategu’r addysgu mewn dau fodiwl yn yr ail flwyddyn, Music Sounded Out a Formal Functions.

Nod y fideos yw gwella dysgu’r myfyrwyr ar y modiwlau hyn, a darparu cynnwys glir a hygyrch, gyda ffocws arbennig ar anghenion myfyrwyr ag anableddau dysgu fel dyslecsia.

Bydd y prosiect yn cynhyrchu un ar ddeg o fideos, yn ogystal ag adnoddau dysgu rhyngweithiol fel cwisiau pop, a fydd yn cael eu dosbarthu’n ddigidol i fyfyrwyr yn y dosbarth, ac a fydd ar gael ar-lein ar gyfer hunan-ddysgu.

Bydd cynnwys y fideos yn amrywio ac yn cynnwys cyflwyniadau i’r modiwlau; arddangosiadau gweledol o sgiliau cerddorol; esboniadau hygyrch o derminoleg a labeli cerddorol; a chanllawiau ar roi cyflwyniadau a sut gall myfyrwyr wneud yn fawr o'r adborth sydd ar gael iddynt gan y staff.

Bydd Chris Davies, myfyriwr ail flwyddyn, yn ffilmio ac yn golygu pob un o’r 11 fideo, yn ogystal â datblygu’r cwisiau pop.   Mae Johanna Williams, sydd hefyd yn ei hail flwyddyn, yn cynhyrchu canllawiau ysgrifenedig a fideo esboniadol ar sgiliau cyflwyno, yn ogystal â helpu Dr Gardner gyda sgriptiau ar gyfer y fideos, a chasglu adnoddau i'w defnyddio yn y fideos.

Dywedodd Chris Davies: "Rwy’n cael amser gwych yn gweithio gyda Dr Gardner a Johanna, ac rwy’n gobeithio y bydd canlyniadau cadarnhaol i’r cydweithio rhwng myfyrwyr a darlithydd, fel bod amrywiaeth o adnoddau dysgu seiliedig ar dechnoleg ar gael i bawb sy’n dilyn y modiwl."

Dywedodd Dr Gardner am y prosiect: "Yn yr hinsawdd bresennol lle mae cyfathrebu’n weledol drwy ffilm a recordiwyd yn dod yn offeryn sylfaenol ar gyfer dysgu myfyrwyr, a chan fod hynny’n arbennig o berthnasol i’r disgyblaethau a’r sgiliau lluosog sy’n ofynnol ar gyfer cerddoriaeth, mae’r prosiect yn gobeithio gwneud cyfraniad pwysig i’r ddarpariaeth addysgu bresennol. Yn achos myfyrwyr ag anabledd a’r rhai sy’n dod o wledydd tramor, y mae’r Saesneg yn ail iaith iddynt, mae’n ddull deniadol o gyfathrebu.”

Ariannwyd y prosiect gan Raglen Arloesedd Addysg Prifysgol Caerdydd (CUSEIP). Yn nodweddiadol mae prosiectau CUSEIP, sy’n rhan o’r Ganolfan Arloesedd Addysg, yn rhedeg am 6-8 wythnos yn ystod yr haf ac ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.