Ewch i’r prif gynnwys

Sêr y dyfodol ym maes MRI microstrwythurol

3 Gorffennaf 2017

Group photo of CUBRIC fellows

Mae tri o sêr dawnus y dyfodol ym maes MRI microstrwythurol wedi cael cymrodoriaethau clodfawr i astudio yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Bydd Maxime Chamberland (Prifysgol Sherbrooke, Quebec, Canada), Erika Raven (Prifysgol Georgetown, Washington DC, UDA), a Chantal Tax (Canolfan Feddygol Utrecht, Utrecht, yr Iseldiroedd) yn dechrau eu cymrodoriaethau eleni yn y ganolfan fodern sydd newydd ei hadeiladu.

Meddai’r Athro Derek Jones, sy’n fentor i’r tri chymrawd: “Rydw i wrth fy modd gyda llwyddiant a safon uchel y tri chymrawd. Yn benodol, rydw i ar ben fy nigon eu bod wedi dewis ymgymryd â’u cymrodoriaethau yn CUBRIC ar y cam pwysig hwn yn natblygiad eu gyrfa...”

“Mae cynigion ymchwil pob un ohonynt yn rhai cyffrous dros ben, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw yn CUBRIC sy’n mynd yn fwyfwy rhyngwladol!”

Yr Athro Derek Jones Professor

Arbenigedd rhagorol

Enillodd Dr Chamberland gymrodoriaeth gan Gyngor Peirianneg ac Ymchwil y Gwyddorau Naturiol (NSERC) Canada i ddatblygu offer rhyngweithiol a chyflym ar gyfer archwilio ffibrau a chysylltedd yr ymennydd, a daeth i’r brig yn rownd y ceisiadau. Meddai: “A minnau’n wyddonydd cyfrifiadurol, mae diddordeb gennyf mewn datblygu dulliau arloesol fydd yn gwella deilliannau niwrolawfeddygol yn y pen draw. Er bod llawer o ganolfannau yn y byd, fe wnes i ddewis CUBRIC fel y sefydliad i gynnal fy mhrosiect ymchwil arfaethedig...”

“O ystyried arbenigedd rhagorol y ganolfan a’i offer blaenllaw, CUBRIC yw’r amgylchedd perffaith i ddatblygu fy ngyrfa a gweithio gyda’r data gorau posibl am niwroddelweddu i edrych ar beth sy’n bosibl yn yr ymennydd dynol.”

Dr Maxime Chamberland Prifysgol Sherbrooke, Quebec, Canada

Mae’r sganiwr MRI Connectom cyntaf yn Ewrop

Cafodd Dr Tax Gymrodoriaeth Rubicon gan Sefydliad Ymchwil Wyddonol yr Iseldiroedd (NWO). Daeth hithau hefyd i’r brig yn ei rownd am ei chynnig i ddefnyddio graddiannau cryf iawn mewn MRI aml-foddol er mwyn cynnal asesiad cynhwysfawr o microstrwythur sylwedd gwyn. Dywedodd: “Rydw i’n frwd dros ddatgelu strwythur yr ymennydd. Mae’r offer unigryw a’r amgylchedd academaidd amlddisgyblaethol yn CUBRIC yn ddelfrydol ar gyfer datblygu’r profiad a’r offer o fy PhD mewn trylediad MRI...”

“Yn CUBRIC hefyd y mae’r sganiwr MRI Connectom cyntaf yn Ewrop. Ar sail potensial y system hon, arbeingedd fy ngoruchwylydd, yr Athro Derek Jones, a'r tebygrwydd rhwng fy niddordebau i a’r llinellau ymchwil yn CUBRIC, dewisais gynnal fy nghymrodoriaeth yn CUBRIC.”

Dr Chantal Tax Canolfan Feddygol Utrecht, Utrecht, yr Iseldiroedd

Ymchwil ar y cyd rhwng UDA a’r DU

Enillodd Dr Raven yr unig gymrodoriaeth ryngwladol gan Marshall Sherfield o UDA i edrych ar faint o haearn sydd ym meinweoedd yr ymennydd, a sut mae hyn yn effeithio ar wybyddiaeth. Dywedodd: “Mae cyfleusterau anhygoel yn CUBRIC, ac rydw i’n edrych ymlaen cymaint at ddysgu gan y llu o arbenigwyr sy’n rhan o’r grŵp...”

“Nod fy nghymrodoriaeth yw hyrwyddo prosiectau ymchwil ar y cyd rhwng UDA a’r DU. Mae CUBRIC wedi bod mynd ati i gynnal cyfarfodydd rhyngwladol, siaradwyr nodedig, a digwyddiadau cymunedol lleol fel gemau’r ymennydd. Rwy'n meddwl y bydd yn lle ardderchog ar gyfer twf academaidd a chwrdd â chydweithwyr newydd.”

Dr Erika Raven Prifysgol Georgetown, Washington DC, UDA

Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd yw cartref y Ganolfan ac mae yno gyfuniad o offer niwroddelweddu sy'n unigryw i Ewrop. Bydd hyn yn fodd i’r Brifysgol barhau i ddatblygu ymchwil sy'n arwain y byd, a’i henw da rhyngwladol yn y maes, ac ennill ei phlwyf yn un o dair prifysgol orau'r DU ar gyfer Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth.

Rhannu’r stori hon

We need volunteers to participate in our world-leading brain imaging studies.