Ewch i’r prif gynnwys

Gemydd modern i ddylunio Coron Eisteddfod 2018

30 Mehefin 2017

Laura Thomas

Mae gemydd o Gastell-nedd wedi’i dewis i greu a dylunio’r Goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd.

Dywedodd Laura Thomas, sy’n 34, ei bod am greu dyluniad modern ac unigryw ond sydd hefyd yn parchu traddodiadau’r Eisteddfod.

Bydd dylunio a chreu’r Goron – a noddir gan Brifysgol Caerdydd yn 2018 - yn golygu bod y dylunydd gemwaith yn cyflawni uchelgais hirsefydlog.

Meddai Laura: “Rydw i wastad wedi bod eisiau dylunio a chreu coron ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr...”

“Gyda lwc, bydd yn creu canolbwynt unigryw ar gyfer yr Eisteddfod fydd yn aros yn y cof.”

Laura Thomas Gemydd modern

“Rwy’n mynd i’r Eisteddfod bob blwyddyn ac fe wnes i chwarae’r recorder yno unwaith pan oeddwn yn yr ysgol gynradd!”

Mae’r Goron yn brif anrhydedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chaiff ei chyflwyno i enillydd un o'r ddwy brif gystadlaethau barddoniaeth.

Daeth Laura i’r brig mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a ddenodd nifer o ddylunwyr o’r radd flaenaf.

Bydd hi nawr yn mynd ati i gau pen y mwdwl ar ei dyluniad cyn dechrau ar y gwaith cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018.

Parquetry jewellery

Parquet

Mae Laura, a astudiodd dylunio gemwaith yn Central Saint Martins yn Llundain, yn gweithio i gwmni Gemwaith Mari Thomas yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn creu ei gemwaith a’i chasgliadau ei hun.

Mae ei gemwaith yn cynnwys gwaith parquet lle mae’n gosod argaenau pren y tu mewn i ddeunydd arian, ac mae’n dechneg fydd i’w gweld yn y Goron.

Silver necklace

“Rydyn ni'n cau pen y mwdwl ar y dyluniad ar hyn o bryd. Rydw i wedi gweld llawer o luniau o’r Goron, ond dydw i heb weld un sy’n cynnwys y dechneg yma o’r blaen,” meddai Laura.

Meddai’r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n falch o fod yn brifysgol o Gymru, felly pleser o’r mwyaf yw gallu chwarae rôl amlwg drwy noddi’r Goron...”

“Mae Laura yn emydd modern hynod dalentog a bydd ei Choron unigryw yn gweddu’n berffaith ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.”

Yr Athro Hywel Thomas Professor

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.