Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth glodfawr Fulbright i fyfyriwr

30 Mehefin 2017

Jac Larner

Mae myfyriwr gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi derbyn dyfarniad clodfawr gan un o'r rhaglenni ysgoloriaeth uchaf ei pharch a'i heffaith, Gwobr Fulbright.

Mae Jac Larner, myfyriwr PhD yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, wedi derbyn Gwobr Pob-Disgyblaeth Fulbright i'w alluogi i astudio ac ymchwilio ym Mhrifysgol Michigan, Ann Arbor.

Fel rhan o'i ysgoloriaeth, bydd Jac yn gweithio yn y Center for Political Studies ym Mhrifysgol Michigan, sef cartref Astudiaeth Etholiadol Genedlaethol America. Cenhadaeth yr Astudiaeth yw hwyluso esboniadau o ganlyniadau etholiadau. Mae'r Astudiaeth yn gwneud hyn drwy alluogi ymchwilwyr i weld y byd gwleidyddol drwy lygaid dinasyddion cyffredin. Mae'r astudiaeth wedi bod ar waith ym Michigan ers 1948.

Bydd Jac Larner a'r 44 unigolyn arall o Brydain yng ngharfan Fulbright 2017-18 yn dathlu eu llwyddiant mewn derbyniad a drefnir gan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad ddydd Iau 6 Gorffennaf 2017.

“Cartref gwyddor wleidyddol”

Wrth siarad am y dyfarniad, dywedodd Jac Larner: “Rwyf i'n hapus iawn i dderbyn Gwobr Fulbright, fydd yn fy ngalluogi i barhau â fy astudiaethau ym Mhrifysgol fyd-enwog Michigan, Ann Arbor, cartref gwyddor wleidyddol. Mae'n anrhydedd anhygoel i gael fy newis ar gyfer y rhaglen, fydd yn gyfle unigryw i fi weithio gydag arbenigwyr sy'n arwain y byd yn fy maes astudio...”

“Rwy'n gobeithio defnyddio'r sgiliau y byddaf i'n eu dysgu yn ystod y cyfnod hwn i helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o wleidyddiaeth, etholiadau a barn gyhoeddus yma yng Nghymru a thu hwnt.”

Ychwanegodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwyf i'n falch iawn o lwyddiant Jac yn sicrhau'r wobr glodfawr hon...”

“Bydd yr ysgoloriaeth yn helpu Jac i ddatblygu ei sgiliau academaidd ymhellach mewn amgylchedd academaidd llewyrchus yn yr Unol Daleithiau.”

“Mae'r wobr mae wedi'i derbyn, mewn maes rhyfeddol o gystadleuol, yn dyst i alluoedd Jac ac rwyf i'n dymuno'r gorau iddo wrth iddo fentro ar draws yr Iwerydd.”

“Cysylltiadau personol a phroffesiynol rhwng cenhedloedd”

Dywedodd Penny Egan CBE, Cyfarwyddwr Gweithredol Comisiwn Fulbright y DU-UDA: “Gall effaith rhaglen Fulbright newid y byd. Bydd ein hysgolheigion Fulbright yn dychwelyd i'r DU ar ôl profi gwahanol ddiwylliannau, systemau gwerthoedd a dulliau meddwl. Bydd ganddyn nhw'r gallu i fod yn ddinasyddion byd-eang mwy empathig ac yn fwy parod i gydweithio ar draws ffiniau, rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU a thu hwnt.”

Ychwanegodd Amy Moore, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwobrau Fulbright: “Does dim enghraifft well i'w chael o bwysigrwydd parhaus addysg ryngwladol na phenderfyniad a chymhelliant enillwyr ein grantiau yn 2017-18. Mae'r myfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol hyn wedi nodi perthnasedd cydweithio rhyngddiwylliannol i'w gyrfaoedd. Fel cyn-fyfyrwyr Fulbright ac arweinwyr y dyfodol, byddan nhw'n gallu meithrin cysylltiadau personol a phroffesiynol rhwng cenhedloedd.”

Mae Comisiwn Fulbright yn darparu'r unig raglen ysgoloriaeth ddwyochrog drawsiwerydd, gan gynnig Gwobrau ar gyfrer astudio neu ymchwilio mewn unrhyw faes, mewn unrhyw brifysgol achrededig yn yr Unol Daleithiau neu'r DU.

Mae'r Comisiwn yn dewis ysgolheigion drwy broses ymgeisio a chyfweld drylwyr, gan edrych am ragoriaeth academaidd ochr yn ochr â chais penodol, amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a chymunedol, sgiliau llysgenhadol amlwg, awydd i ddatblygu Rhaglen Fulbright a chynllun i roi rhywbeth yn ôl i'r DU ar ôl dychwelyd.

Mae grantiau nodweddiadol yn cynnwys lwfans cynhaliaeth a/neu gyfraniad at ffioedd dysgu. Mae ysgolheigion Fulbright yn derbyn cymorth gweinyddol a rhaglen addysg ddiwylliannol gan gynnwys: prosesu fisa, cyfarwyddyd cynhwysfawr cyn ymadael, cyfleoedd cyfoethogi yn yr Unol Daleithiau, sesiwn ailfynediad a chyswllt â rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr.

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.