Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith yn mynd rhagddo ar deml Indiaidd a ddyluniwyd yng Nghymru

28 Mehefin 2017

Professor Adam Hardy and group working on stone design

Ar ôl bron i wyth mlynedd o ddylunio a chynllunio, mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau o'r diwedd ar deml Indiaidd hynafol a ddyluniwyd gan y pensaer o Gaerdydd, yr Athro Adam Hardy.

Gosodwyd y bloc sebonfaen a gerfiwyd gyntaf gan Maharaja Mysore, mewn seremoni arbennig ddechrau'r mis yn Ventakapura, yn nhalaith Karnataka yn India. Mae'r bloc bellach wedi'i osod ar blatfform o flociau ithfaen a godwyd eisoes, a disgwylir i'r deml gael ei hadeiladu'n llawn mewn tua 12 mlynedd.

Mae'r deml yn lledu dros saith erw o dir, gyda'r prif dŵr dros 108 troedfedd o uchder. Bwriad y deml yw dangos arddull hynafol Hoysala, a ddaeth i'r amlwg rhwng yr 11eg a'r 14eg ganrif yn ardaloedd de-orllewinol Karnataka. Mae dros 100 o demlau yn arddull Hoysala wedi goroesi ar draws y rhanbarth hwnnw.

Pan fydd y deml wedi'i hadeiladu, bydd yn adfywio traddodiadau diwylliannol y rhanbarth, yn dod yn ganolfan grefyddol ac yn rhoi lle ar gyfer cynnal perfformiadau canu a dawnsio. Bydd hefyd yn rhoi lle ar gyfer y miloedd o addolwyr a thwristiaid sy'n ymweld bob blwyddyn. Neilltuwyd y deml i Shree Venkateshvara, ffurf o Vishnu.

Mynd y tu hwnt

Nod yr Athro Hardy wrth adfywio traddodiad yw mynd y tu hwnt i henebion mwyaf crand y cyfnod hwnnw. Bydd y deml yn cael ei gwneud o sebonfaen glas-llwyd, a bydd delweddau manwl ac addurniadau prydferth a gerfiwyd mewn arddull sy'n nodweddu Hoysala, yn ychwanegu at ei gogoniant.

Plans for Indian temple

Mae'r Athro Hardy, Athro Pensaernïaeth Asiaidd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, yn awdurdod blaenllaw ym maes pensaernïaeth y Deml Indiaidd ac wedi bod yn astudio'r pwnc ers dros 35 mlynedd. Mae ei waith yn gyfuniad unigryw o waith ymchwil hanesyddol a dull creadigol o ddylunio.

Ar ôl i un o'i fyfyrwyr PhD gyfarfod ag ymddiriedolaeth gyhoeddus yn India ar hap, a oedd yn edrych i adeiladu teml newydd ar ffurf arddull Hoysala, daeth i'r amlwg mai'r Athro Hardy oedd y person gorau i ddylunio'r prosiect.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ychydig o wythnosau yn ôl, yn dilyn wyth mlynedd o waith dylunio ac ailddylunio.

“Cyfrifiadau astrolegol”

Mae gan yr Athro Hardy ddarn mawr o waith ar ôl sy'n ymwneud â manylion cain y deml, sef dylunio'r mowldiau allanol, y pileri niferus a'r nenfydau, yn ogystal â dylunio'r temlau bychain sydd ar y waliau allanol.

Dywedodd yr Athro Hardy: “Mae hyn yn cynnwys tynnu lluniau o'r dyluniadau â llaw mewn maint go iawn, gan wneud yn siŵr bod y proffiliau yn gywir. Mae hefyd yn cynnwys cydlynu'r holl rannau wrth ystyried cyfrifiadau astrolegol lled y cynllun. Mae'n gymhlethdod ychwanegol oherwydd prin yw'r dimensiynau sy'n troi'n rhifau cyfan!”

Mae grŵp o grefftwyr heb eu hail ym maes cerfluniau arddull Hoysala wedi'u penodi i weithio ar y prosiect ac i hyfforddi prentisiaid.

Dywedodd yr Athro Hardy: “Rwyf wedi ceisio peidio â dylunio'r deml, ond yn hytrach ei datblygu o egwyddorion pensaernïol y traddodiad canoloesol. Mae'r rheiny, ynghyd â'r gofynion iconograffig – delweddau o'r duwiau a'u lleoliad – wedi golygu bod y deml wedi datblygu mewn ffordd naturiol ac anochel.”

Rhannu’r stori hon

Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.