Datgelu Bryngaer Gudd Caerdydd

28 Mehefin 2017

Women gathered around map
© Paul Evans

Mae hanes rhyfeddol bryngaer gynhanes gudd yn un o faestrefi mwyaf bywiog Cymru, sydd serch hynny yn wynebu heriau economaidd, i gael ei ddatgelu fel rhan o brosiect cymunedol newydd pwysig.

Mae Prosiect Treftadaeth CAER, partneriaeth arloesol rhwng y sefydliad datblygu cymunedol  ACE - Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Prifysgol Caerdydd, ysgolion lleol a thrigolion wedi derbyn grant cyfnod datblygu un flwyddyn o £156,900 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) er mwyn symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer prosiect Bryngaer Gudd CAER.

Nod y prosiect yw rhoi i'r gymuned well dealltwriaeth o'u treftadaeth a gorffennol diddorol yr ardal, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl leol ddysgu sgiliau newydd, a meithrin hyder a chydlyniant cymunedol.

Mae treftadaeth ryfeddol

Mae bryngaer Caerau, un o henebion mwyaf arwyddocaol a hynaf Caerdydd, ar ffin orllewinol y ddinas, ymhlith ystadau tai Caerau a Threlái. Mae treftadaeth ryfeddol i’r safle, gydag adfeilion eglwys ganoloesol a chylchfur castell oddi mewn i amddiffynfeydd cloddiau a ffos anferth o Oes yr Haearn a fu ar un adeg, dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl, yn gartref i anheddiad poblog dros ben.

Man and two children dropping pins on map
© Paul Evans

Tan yn ddiweddar ychydig iawn oedd yn hysbys am y safle. Ond fel rhan o gyfres o gloddiadau cymunedol a gydlynwyd gan Dreftadaeth CAER, mae trigolion lleol a disgyblion ysgol wedi bod yn gweithio gydag archaeolegwyr a haneswyr o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd i ddod â darganfyddiadau cyffrous i’r golwg.

Mae'r rhain yn cynnwys tystiolaeth a fu gynt yn anhysbys ynghylch meddiant yn ystod oes y Rhufeiniaid a'r Oesoedd Tywyll, yn ogystal â gweddillion archaeolegol helaeth sy’n datgelu ffeithiau am fywyd yn ardal Caerdydd yn ystod Oes yr Haearn.  Yn 2014, darganfuwyd hefyd weddillion rhyfeddol tir amgaeedig a sarn, oedd yn golygu bod modd dyddio’r safle yn ôl 6,000 o flynyddol i’r cyfnod Neolithig cynnar neu Oes y Cerrig, sef cyfnod llawer cynharach nag yr oedd archaeolegwyr wedi tybio’n flaenorol.

Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd tîm Treftadaeth CAER yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn gydag amrywiaeth o gynigion.  Mae'r cynlluniau yn cynnwys troi neuadd efengylu nad yw’n cael ei defnyddio bellach yn ganolfan dreftadaeth yng ngofal y gymuned leol, gwella mynediad i’r fryngaer a llunio a gosod arwyddion a gwybodaeth newydd, fel bod pobl leol ac ymwelwyr yn gallu dysgu am hanes anhygoel yr ardal.

Elderly people sat around table
© Paul Evans

Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cyfnod datblygu yn arwain at arian pellach gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect dwy flynedd rhwng 2018 a 2020.

Dywedodd Dave Horton, Rheolwr Datblygu yn ACE - Gweithredu yng Nghaerau a Threlái: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi’r cyfle yma i ni.  Mae prosiect y Fryngaer Gudd yn benllanw pum mlynedd o ymchwil archaeolegol a hanesyddol yn y gymuned a phartneriaethau agos rhwng y gymuned, addysg a sectorau treftadaeth, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, ysgolion lleol, Amgueddfa Stori Caerdydd, Archifau Morgannwg, Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd - i gyd o dan ymbarél treftadaeth CAER.”

“Os bydd yn llwyddiannus, mae’r prosiect llawn yn cynnig rhaglen o ymchwil gymunedol, cyflwyno’r heneb a datblygu seilwaith a fydd yn ysbrydoli, ac yn harneisio potensial y safle treftadaeth rhyfeddol hwn, gan sianelu doniau lleol i ddylanwadu ar sut mae treftadaeth bryngaer Caerau yn cael ei deall a’i gwerthfawrogi.”

Aerial view of ordnance survey map
© Paul Evans

“Gwneud gwahaniaeth parhaol”

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn denu ymwelwyr newydd i'r ardal i fwynhau a dysgu, ochr yn ochr â gwella cyfleoedd bywyd unigol pobl leol a gwneud gwahaniaeth parhaol i'r amgylchedd lleol a llesiant cymunedol mewn modd sy’n cydweddu â mentrau Llesiant a Threchu Tlodi trwy Ddiwylliant Llywodraeth Cymru.”

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Dengys Prosiect y Fryngaer Gudd yn amlwg sut gall treftadaeth leol fod yn gatalydd ar gyfer llawer o weithgareddau gwahanol a dod â phobl ynghyd trwy fwriad cyffredin.  Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch o gefnogi ACE yn ei gynlluniau i recriwtio gwirfoddolwyr a chyfranogwyr o bob oed, cynnig hyfforddiant sgiliau a hefyd, diolch i'r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, i alluogi pobl i fwynhau’r hanes sydd ar garreg y drws.”

Dywedodd Mark Drakeford, AC Caerau a Threlái: “Mae’r dyfarniad hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn tystio i waith caled ACE, Prifysgol Caerdydd, cynghorwyr lleol Caerau, Cyngor Caerdydd a phobl Caerau a Threlái...”

“Rwy’n mawr obeithio bod modd nawr i’r cynlluniau cyffrous a roddwyd gerbron Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn y cynnig ariannu hwn gael eu gwireddu, fel bod hanes unigryw a diddorol y rhan hon o Gaerdydd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa ehangach.”

Mark Drakeford, AC Caerau a Threlái

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER, Dr Dave Wyatt o Brifysgol Caerdydd: “Mae cloddiadau cymunedol wedi datgelu mai Caerau yw’r heneb hynaf yng Nghaerdydd.  Mae'n safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol, os nad rhyngwladol, ac eto nid oes dealltwriaeth dda ohono, ac mae’n dal yn anhysbys i raddau helaeth. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y safle oddi mewn i gymunedau sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd difrifol...”

“Mae prosiect Treftadaeth CAER bob amser wedi gweithio i harneisio grym treftadaeth er mwyn gwella cyfleoedd bywyd unigol pobl leol, gan feithrin cysylltiad cryf rhwng pobl, treftadaeth a lle.”

Dr David Wyatt, Senior Lecturer in Early Medieval History, Community and Engagement

“Rwy’n arbennig o gyffrous ynghylch y posibiliadau mae’r prosiect yn eu creu ar gyfer pobl ifanc yn lleol.  Mae prosiect y Fryngaer Gudd yn adeiladu ar bartneriaethau sefydledig gydag ysgolion lleol. Yn flaenorol mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys ymchwil archaeolegol a hanesyddol, celf ar thema treftadaeth a chreu ffilmiau. Ond mae prosiect y Fryngaer Guddyn cynnig cyfle i ddatblygu’r strategaethau hyn ar raddfa fawr; a gwreiddio prosiect adfywio treftadaeth i’r gymuned gyfan yng nghwricwlwm yr ysgol.”

Dywedodd Martin Hulland, Prifathro Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, ysgol newydd sydd gerllaw: “Rydym ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag ACE, Prifysgol Caerdydd a Threftadaeth CAER ar y prosiect treftadaeth cymunedol gwych hwn. Mae’r disgyblion yn yr ysgol bresennol wedi elwa’n aruthrol o’r gwaith hyd yma a bydd y prosiect hwn yn helpu'r ysgol newydd i gysylltu’r gorffennol, y presennol a'r dyfodol wrth inni symud i’n hadeilad newydd yng nghanol y gymuned leol hon, sy’n un falch a chreadigol.”

Rhannu’r stori hon

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.