Ewch i’r prif gynnwys

Sgôr perffaith am foddhad myfyrwyr MA

26 Mehefin 2017

Mae Ysgol y Gymraeg wedi sgorio 100% am yr ail dro yn olynol am fodlonrwydd cyffredinol yn Arolwg Profiad Uwchraddedigion a Addysgwyd (PTES) 2017.

Arolwg ar-lein cenedlaethol yw’r Arolwg Profiad Uwchraddedigion a Addysgwyd ac mae’r canlyniadau newydd yn adlewyrchu barn myfyrwyr sy’n astudio MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn yr Ysgol eleni.

Mae’r arolwg yn gwerthuso saith maes thematig: Dysgu ac Addysgu; Ymgysylltu; Asesu ac Adborth; Traethawd Hir neu Brosiect Mawr; Trefniadaeth a Rheolaeth; Adnoddau a Gwasanaethau; a Datblygu Sgiliau.

Eleni, yn ogystal â sgorio 100% am fodlonrwydd cyffredinol gydag ansawdd y cwrs, sgoriodd yr Ysgol rhwng 90% a 100% mewn pum maes thematig:

  • Asesu ac Adborth - 100%
  • Dysgu ac Addysgu - 98%
  • Datblygu Sgiliau - 97%
  • Ymgysylltu - 90%
  • Trefniadaeth a Rheolaeth - 90%

Wrth edrych yn fanwl ar adborth penodol y myfyrwyr mae nifer o uchafbwyntiau yn dod i’r amlwg, gan gynnwys consensws bod staff yn dda am ‘esbonio pethau’ (100%), ac ‘yn frwdfrydig am beth maen nhw'n ei ddysgu’ (100%). Hefyd, dywedodd y myfyrwyr bod y ‘cwrs yn ysgogol ddeallusol’ (100%).

Meddai Dr Siwan Rosser, cydlynydd y rhaglen MA: “Rydym yn falch iawn o ganlyniadau diweddaraf arolwg PTES. Eleni eto, mae adborth myfyrwyr yn destun balchder ac yn tystio i arloesedd y rhaglen MA. Hoffwn ddiolch i staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol yr Ysgol, eu hymdrechion nhw sydd wedi sicrhau’r canlyniadau arbennig hyn.

“Rydym wedi ymrwymo i broses barhaol o ddatblygu a chryfhau profiad addysgol ein myfyrwyr. Mae derbyn adborth gonest ac adeiladol yn uniongyrchol gan fyfyrwyr felly’n bwysig iawn i ni. Byddwn yn ystyried holl ganlyniadau’r arolwg diweddaraf wrth inni lunio cynlluniau i gynnal a gwella safon ein darpariaeth.”

Darllenwch ragor am raglen MA Astudiaeth Cymreig a Cheltaidd yr Ysgol.

Yn ystod y cwrs eleni rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd amrywiol […] Mae hyblygrwydd yr MA wedi fy ngalluogi i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb i mi, megis sosioieithyddiaeth, diwylliant a hanes Cymru a chyfieithu, sydd yn y pendraw wedi arwain at swydd amser llawn fel cyfieithydd i Amgueddfa Cymru ar ddiwedd y cwrs.

Ellen Carter, MA Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd (2017)

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.