Ewch i’r prif gynnwys

Cael hyd i ‘fannau poeth’ arloesi a’u hariannu i roi hwb i economi Cymru

28 Mehefin 2017

Spark

Mae dod o hyd i ‘fannau poeth arloesi’ a’u hariannu yn hanfodol i sicrhau twf busnes ledled Cymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Ac mae partneriaethau cryfach rhwng busnesau a phrifysgolion yn allweddol i wneud i hynny ddigwydd, yn ôl yr arbenigwyr.

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, awdur arweiniol Cynyddu Gwerth Rhyngweithio Rhwng Prifysgolion a Busnesau Yng Nghymru: "Mae angen i Gymru ddod â busnesau a phrifysgolion at ei gilydd i fanteisio ar ymchwil wych. Mae diffyg gweledigaeth ac uchelgais hirdymor yn gwanhau ac yn lleihau effaith ymdrechion y ddwy garfan hon.

"Rhaid cael hyd i ‘fannau poeth’ arloesi i’r dyfodol trwy gydweithio strategol. Gallai’r dull gweithredu a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd weithredu fel glasbrint ar gyfer datblygu ‘mannau poeth’, gan gynnwys sectorau allweddol, busnesau a phrifysgolion Cymru.”

Yr Athro Kevin Morgan Athro Llywodraethu a Datblygu

Mae'r adroddiad yn dadlau bod prifysgolion Cymru wedi bod o dan anfantais gystadleuol i’w cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig ers i’r cyllid arloesi ac ymgysylltu ddod i ben yn 2014. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ailosod cefnogaeth o dan gynigion a amlinellwyd yn ei hymateb i Adolygiad Diamond yn 2016.

Mae adroddiad yr Athro Morgan, a noddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac a gyhoeddywd gan Dasglu Tyfu Gwerth Cymru, yn galw am ffyrdd ymarferol o ddod ag ymchwilwyr prifysgol dawnus a busnesau ymchwil a datblygu arloesol at ei gilydd.

Mae Tasglu Tyfu Gwerth Cymru, sy’n cael ei hyrwyddo gan ffigurau uwch ar draws y sectorau prifysgol a busnes yng Nghymru, ac a ddatlbygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB), yn ceisio datblygu porthol ar-lein sy’n helpu busnesau i gael hyd i arbenigedd, nodi prosiectau cydweithredol, amlygu ‘astudiaethau achos’ cryf, a chynnig arweiniad ar sut mae cydweithio.

Cadeirydd y Tasglu yw’r Dr Drew Nelson, Prif Swyddog Gweithredol IQE plc, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, a’r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.

"Bwriad Tyfu Gwerth Cymru yw cynnig cymorth ymarferol ac arweiniad i lunwyr polisi, busnesau a’r sector addysg uwch, a chreu ecosystem symlach lle gall diwydiant ac ymchwil gydweithio’n well.”

Yr Athro Colin Riordan Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Crebu Sbarc

Mae adroddiad heddiw yn cyd-ddigwydd â lansio ‘Creu Sbarc’. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Creu Sbarc yn dod â naw ffigur blaenllaw o feysydd busnes, academia a chyllid yng Nghymru a 300 o arweinwyr Cymru at ei gilydd, i gynnig arweiniad sy’n ysbrydoli, datblygu arloesedd ac entrepreneuriaeth, a thrawsnewid Cymru’n gyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer cwmnïau o bob maint.

"Mae lansio 'Creu Sbarc’, a chyhoeddi adroddiad Tyfu Gwerth Cymru yn creu llwyfan cryf ar y cyd ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol gan ysbrydoli unigolion a datblygu trefniadau cydweithio a all wneud gwahaniaeth i’n bywydau ni i gyd trwy greu ffyniant economaidd a chymdeithasol.”

Ken Skates Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Ychwanegodd Dr Drew Nelson: "Mae gan Gymru hanes o lwyddiant ym maes entrepreneuriaeth ac arloesi. Drwy lansio Tyfu Gwerth Cymru ochr yn ochr â 'Creu Sbarc', rydym yn gobeithio rhyddhau doniau sydd ynghudd yn ein prifysgolion, eu cyfuno â diwydiant a symud ymlaen yn ddi-fwlch i ddatblygu partneriaethau gwirioneddol bwerus ar gyfer twf."

Dywedodd David Docherty, Prif Weithredwr NCUB: "Sefydlwyd tasglu Tyfu Gwerth Cymru i gefnogi'r system arloesi yng Nghymru drwy sicrhau  partneriaethau agosach rhwng busnesau, prifysgolion a’r Llywodraeth.  Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr angen dybryd am gefnogi’r trefniadau cydweithio hyn mewn byd wedi Brexit."

Mae Tasglu Tyfu Gwerth Cymru yn adeiladu ar waith Tasglu Cynyddu Gwerth y Deyrnas Unedig gyfan, a fu’n cyfrannu at y polisi gwyddoniaeth ac adolygiad gwariant 2012, a hefyd Growing Value: Scotland a'r rhaglen a ddeilliodd o hynny, Growing Potential: Scotland’s Innovation Step-Change, sy’n archwilio sut gall prifysgolion, busnesau a’r llywodraeth ddod yn bartneriaid i alluogi newid pellgyrhaeddol o ran Ymchwil a Datblygu ac arloesedd ym myd busnes.