Ewch i’r prif gynnwys

Bywydau crefyddol morwyr rhyngwladol

23 Mehefin 2017

Captain at ship's helm

Bydd prosiect newydd gan Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr Prifysgol Caerdydd (SIRC) yn edrych ar brofiadau crefyddol ac ysbrydol morwyr a gweinidogion ymhlith caplaniaid porthladdoedd.

Bydd Religion in multi-ethnic contexts, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn edrych ar natur profiadau crefyddol ac ysbrydol morwyr, caplaniaid porthladdoedd a gweithwyr lles.

Bydd y gwaith ymchwil yn cyfrannu at ddealltwriaeth y gymdeithas o sut y mae grwpiau aml-ffydd yn cyd-fyw’n heddychlon, a pha ffactorau allai amharu ar heddwch, neu ei fygwth, mewn poblogaethau o grefyddau amrywiol.

Bydd yn cynnig dealltwriaeth o anghenion ac arferion gweithwyr lles mewn porthladdoedd cyfoes a gweithwyr diwydiannol ar longau.

Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau amrywiol gan gynnwys ethnograffeg ar longau ac mewn porthladdoedd, cyfweliadau a dadansoddiad dogfennol. Bydd data archifol hefyd yn cael ei gasglu, gan nodi datblygiad hanesyddol caplaniaeth ym mhorthladdoedd yn y DU.

Nod y prosiect yw gofalu bod sefydliadau sy'n gweithio mewn porthladdoedd yn rhoi mwy o ddarpariaeth ysbrydol; i gael gwell dealltwriaeth o sut y caiff crefydd ac ysbrydolrwydd eu mynegi, eu profi a'u trafod mewn porthladdoedd a gweithleoedd preswyl aml-wladol. Bydd hefyd yn edrych ar esblygiad crefyddol y tu hwnt i gynulleidfaoedd a safleoedd ffurfiol sydd wedi'u dynodi'n grefyddol.

Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan yn y gwaith ymchwil y mae'r Athro Helen Sampson, Cyfarwyddwr y Ganolfan; yr Athro Graeme Smith, Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Chichester; yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Athro Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Islam-UK y Brifysgol; Dr Nelson Turgo, cydymaith ymchwil yn y Ganolfan; a'r Athro Wendy Cadge, Athro Cymdeithaseg a Menywod, ac Astudiaethau Rhyw a Rhywioldeb ym Mhrifysgol Brandeis.

Dywedodd yr Athro Helen Sampson, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn sefyllfaoedd aml-ffydd cyfyngedig...”

“Bydd yn cynnig y cyfle i ystyried sut y gall pobl o wahanol grefyddau gydweithio’n gytûn mewn amodau anodd, yn ogystal â'r amgylchiadau sy'n medru rhoi straen ar berthnasoedd.”

Yr Athro Helen Sampson Director, Seafarers International Research Centre

Ychwanegodd yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Cyfarwyddwr Canolfan Islam-UK Prifysgol Caerdydd: “Bydd y prosiect yn ein galluogi i edrych ar safbwyntiau caplaniaid porthladdoedd, sef y rhai sy'n rhoi gwasanaethau ysbrydol a lles i forwyr o wahanol grefyddau, wrth iddynt alw ym mhorthladdoedd ar draws y DU...”

“Cefnogir y prosiect gan ystod eang o randdeiliaid, ac mae'n bosibl y gall fod o fantais sylweddol i forwyr a sefydliadau lles/ysbrydol cysylltiedig.”

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre

Rhannu’r stori hon

Ffoniwch ni ar 0800 801750 i drafod sut y gallai ein hymchwil ni helpu eich sefydliad chi.