Ewch i’r prif gynnwys

Santander yn adnewyddu'r bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd

22 Mehefin 2017

Cardiff University and Santander contract signing
Vice-Chancellor puts pen to paper on new agreement

Mae Prifysgol Caerdydd a Santander wedi cyhoeddi cytundeb tair blynedd fydd yn rhoi rhagor o gefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun interniaeth fydd yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr yn yr ardal, ac yn helpu busnesau lleol i elwa ar bobl ifanc dalentog.

Ers 2008, mae'r bartneriaeth hon wedi galluogi myfyrwyr i fanteisio ar yr interniaethau hyn, yn ogystal â chefnogi prosiectau entrepreneuriaeth, a rhoi cyfleoedd byd-eang ac ysgoloriaethau. Llofnododd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan y cytundeb newydd ar 1 Mehefin, mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd i ddathlu dengmlwyddiant Prifysgolion Santander.

Yn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Riordan: “Mae ein partneriaeth â Santander yn enghraifft wych o sut y gall dau sefydliad gwahanol iawn gydweithio, a chynnal rhaglenni arbennig ar y cyd sy'n helpu ein myfyrwyr ac yn cefnogi ein cymuned leol...”

“Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae mwy na 1,000 o'n myfyrwyr wedi elwa ar gefnogaeth Santander i Brifysgol Caerdydd, ac mae wedi helpu codi dros £1.2m o gyllid. Hoffwn ddiolch i Brifysgolion Santander ar ran pawb ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor , Prifysgol Caerdydd

Mae cefnogaeth Santander hefyd wedi sicrhau bod cynllun Prifysgol Caerdydd o roi lleoliadau ymchwil â chyflog dros yr haf yn parhau i lwyddo, yn ogystal â Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP), campau cystadleuol Cardiff Racing sefymgais y Brifysgol i raglen Formula Student.

Yn ogystal â'r Is-Ganghellor, bu Valentina Sepulveda (myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd), Dr Ryan Marks (cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd a chydymaith ymchwil, Grŵp Perfformiad Strwythurol) a Valerie Livingston (Cyfarwyddwr, newsdirect Cymru) yn siarad yn y digwyddiad.

Ddyfodol a chyflogadwyedd myfyrwyr

Roedd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander yn y DU ymhlith y cynrychiolwyr cenedlaethol a lleol oedd yn bresennol.

Ar ôl llofnodi'r cytundeb gyda'r Is-Ganghellor, aeth i gwrdd â nifer o aelodau cymuned Prifysgol Caerdydd, sydd wedi elwa ar gefnogaeth y rhaglen; yn eu plith roedd myfyrwyr a fydd yn parhau i elwa arni gyda'r pwyslais newydd ar ddyfodol a chyflogadwyedd myfyrwyr.

Dywedodd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander yn y DU: “Mae Santander wedi ymrwymo i gefnogi addysg uwch yn ogystal â chymunedau lleol ledled y DU. Mae wedi bod yn wych cwrdd â staff a myfyrwyr, a gweld effaith go iawn ein rhaglenni ar y cyd...”

“Mae'n bleser adnewyddu ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd fydd yn rhoi rhagor o gefnogaeth i wneud amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun interniaeth sy'n helpu i wella cyflogadwyedd pobl ifanc yn yr ardal, yn ogystal â helpu busnesau lleol i gael gafael ar bobl ifanc dalentog.”

Matt Hutnell Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander yn y DU

Er mai Prifysgol Caerdydd oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ddechrau partneriaeth â Santander, mae'r Banc bellach wedi sefydlu partneriaethau gyda thros 82 o Brifysgolion Santander yn y DU, a thros 1,200 o Brifysgol Santander ledled y byd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynyddu effaith ein hymchwil drwy weithio gyda sefydliadau o bob maint. O gwmnïau newydd bychan i gorfforaethau byd-eang a sefydliadau cyhoeddus a nid-er-elw.