Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

22 Mehefin 2017

Professor Malcom Mason

Mae aelodau o gymuned y Brifysgol wedi'u hanrhydeddu am eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Ymhlith y rhai sydd wedi'u cydnabod mae'r Athro Malcolm Mason, Athro Ymchwil Canser Cymru mewn Oncoleg Glinigol yn yr Ysgol Meddygaeth, sy'n derbyn OBE am wasanaethau i'r GIG ac ymchwil canser.

Yr Athro Mason oedd un o gynllunwyr gwreiddiol y treial clinigol STAMPEDE, sydd wedi dangos sut mae cyfraddau goroesi dynion gyda chanser datblygedig y brostad wedi gwella'n sylweddol drwy ychwanegu cemotherapi neu ffurfiau newydd o therapi hormonau at y therapi hormonau safonol.

Yn flaenorol, bu'n cadeirio'r grŵp a gyhoeddodd ac a fu'n monitro safonau newydd ar gyfer trin canser yng Nghymru. Mae hefyd yn un o arweinwyr creiddiol y rhaglen sy'n diffinio'r system dosbarthu ryngwladol ar gyfer camau canser, ac mae’n arwain y tîm sy'n gwerthuso tystiolaeth ymchwil newydd sy'n ategu hyn.

Fanc Canser Cymru

Hefyd sefydlodd Fanc Canser Cymru, sef y banc tiwmor cenedlaethol cyntaf yn y DU, sydd wedi'i gydnabod fel model i eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.

Dywedodd yr Athro Mason: “Rwyf i wrth fy modd i gael fy anrhydeddu yn y modd hwn...”

“Rwyf i'n arbennig o falch fod gwaith y GIG ac Ymchwil Canser wedi'u crybwyll, ond gwaith tîm yw'r cyfan, ac mae gen i'r cydweithwyr gorau y gallai unrhyw un ddymuno eu cael.”

Yr Athro Malcolm Mason Professor, Institute of Cancer & Genetics
Financial analytics software

Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi

Cafodd Dr Alison Parken o Ysgol Busnes Caerdydd ei chydnabod gydag OBE am ei gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Dr Parken yw arweinydd prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) ac mae ei hymchwil helaeth wedi creu sail tystiolaeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol drwy lunio polisïau ac mewn arferion sefydliadol.

Dywedodd Dr Parken: “Rwy'n falch iawn fod ymchwil a gynlluniwyd i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'i gydnabod drwy'r system Anrhydeddau.

“Rwy'n arbennig o falch os yw hyn yn arwydd fod prosiectau ymchwil cydweithredol gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â chyflogaeth ac anghydraddoldebau cyflog, drwy brosiectau fel Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi, wedi gwneud gwahaniaeth.”

Schoolgirl in lab gear

Science made simple

Mae Wendy Sadler o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn derbyn MBE am wasanaethau i wyddoniaeth, cyfathrebu peirianneg ac ymgysylltu. Yn 2002, sefydlodd Wendy science made simple, sefydliad sy'n dod â gwychder gwyddoniaeth yn fyw gyda sioeau rhyngweithiol rhyfeddol, egni uchel, mewn ysgolion a gwyliau.

Wrth sôn am ei MBE dywedodd Wendy: "Pan gyrhaeddodd y llythyr, fe'm syfrdanwyd. Mae'n anrhydedd enfawr cael cydnabyddiaeth am flynyddoedd o waith caled; hyrwyddo pwysigrwydd dysgu'n seiliedig ar wyddoniaeth sy'n ddifyr ac yn ymgysylltu â phobl ifanc. Heb fy nhîm angerddol ac ymroddedig, fyddwn i byth wedi gallu cyflawni unrhyw beth yn debyg i hyn. Hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i bawb sydd wedi cefnogi science made simple dros y 15 mlynedd ddiwethaf o waelod fy nghalon.”

Un arall a gafodd gydnabyddiaeth oedd yr Athro Pamela Taylor, deiliad Cadair Seiciatreg Fforensig yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth, a dderbyniodd CBE am ei gwasanaethau i seiciatreg fforensig.

“Yn anrhydedd mawr”

Nod ymchwil yr Athro Taylor yw ceisio gwella iechyd a diogelwch pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl sy'n dod yn droseddwyr, ac iechyd a diogelwch y bobl maen nhw'n cysylltu â nhw, boed eu teulu, y gwasanaethau cyfiawnder troseddol, staff y trydydd sector neu'r cyhoedd yn ehangach.

Wrth siarad am ei CBE dywedodd yr Athro Taylor: “Mae hwn yn anrhydedd mawr, a hoffwn ei rannu gyda'r cydweithwyr niferus, yr ymchwilwyr, athrawon a sefydliadau rwyf i wedi gweithio gyda nhw yma yn y DU ac ar draws y byd. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Heb yr holl gefnogaeth, fyddwn i ddim wedi gallu ennill y wobr arbennig iawn hon.”

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rydym ni'n falch iawn i weld cydnabyddiaeth i waith ac ymroddiad ein staff a'n cymuned ehangach...”

“Mae eu cyfraniadau sylweddol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gymdeithas. Hoffwn longyfarch pob un, ar ran y Brifysgol gyfan.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Rhannu’r stori hon

Hoffech chi herio ein hacademyddion am bwnc sy’n bwysig i chi?