Ewch i’r prif gynnwys

Gradd arian i'r Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu

22 Mehefin 2017

Teaching in Sir Martin Evans Building

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael gradd arian yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd Llywodraeth y DU.

Nod TEF, sy'n cael ei dreialu yn 2017, yw cydnabod, gwobrwyo a gwella addysgu rhagorol ym maes addysg uwch.

Ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, roedd panel TEF o'r farn ein bod yn rhoi deilliannau, addysg a chyfleoedd dysgu o safon i'n myfyrwyr. Mae gradd arian hefyd yn golygu bod y Brifysgol yn rhagori ar ofynion ansawdd cenedlaethol trylwyr ar gyfer addysg uwch yn y DU.

Nododd y Panel TEF Panel fod “myfyrwyr o bob cefndir yn cyflawni deilliannau ardderchog" a bod "cyfran uchel iawn o fyfyrwyr yn parhau â'u hastudiaethau ac yn mynd ymlaen i gael swydd, swydd hynod fedrus neu astudiaeth bellach”.

Silver award in the Teaching Excellence Framework
A silver classification means that we deliver high quality teaching, learning and outcomes for our students.

Tynnodd y Panel sylw at y dystiolaeth ganlynol:

  • Dyluniad y cwrs ac arferion asesu sy'n cynnig cyfleoedd i ymestyn ac sy'n gwneud yn siŵr bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu herio o ddifrif
  • Diwylliant o fewn y sefydliad sy'n hwyluso, cydnabod a gwobrwyo addysgu rhagorol drwy gynnig cyfleoedd am ddyrchafiad, datblygu staff a chynlluniau gwobrwyo
  • Myfyrwyr yn cael eu hymgysylltu'n uniongyrchol â datblygiadau sydd ar flaen y gad ym meysydd ymchwil, ysgolheictod ac ymarfer. Mae myfyrwyr yn cael hyfforddiant ymchwil sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth i gyfoethogi'r profiad dysgu
  • Cymorth rhagorol sydd wedi'i deilwra i fyfyrwyr unigol drwy diwtoriaid personol ac sy'n gwella ymdrechion i gadw myfyrwyr o bob cefndir a helpu eu cynnydd.

Meddai’r Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd: “Rydym yn falch ein bod wedi cael gradd dda ar gyfer safon ein haddysgu a phrofiad ein myfyrwyr, ac yn awyddus i ddysgu gwersi yn sgil cymryd rhan yn y Fframwaith er mwyn gwella.

“Rydym yn herio ein myfyrwyr, ac yn cynnig cefnogaeth helaeth i'w galluogi i gyrraedd eu potensial...”

“Er nad oes rhaid i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gymryd rhan yn y Fframwaith, roeddem yn teimlo ei fod yn ymarfer pwysig am ei fod yn gyfle i ni gydnabod ein cryfderau yn ogystal â nodi sut gallwn wella profiad y myfyriwr.”

Ymysg rhai o’r cryfderau a nodwyd yng nghais Prifysgol Caerdydd i'r Fframwaith, roedd cefnogi rhagoriaeth addysgu, buddsoddi yn ein campws, symudedd byd-eang, dysgu a arweinir gan ymchwil, cyfraddau cadw myfyrwyr a sicrhau bod ein graddedigion yn barod ar gyfer byd gwaith.

Mae'r asesiad o brifysgolion yn y Fframwaith yn canolbwyntio ar ansawdd yr addysgu, yr amgylchedd dysgu a deilliannau i fyfyrwyr.

Mae’r asesiadau’n defnyddio amrywiaeth o ddata, gan gynnwys canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, canlyniadau cyflogadwyedd graddedigion, cyfraddau cadw myfyrwyr a data ehangu cyfranogiad. Gwahoddwyd sefydliadau i gyflwyno naratif er mwyn cefnogi eu cais.

Caiff ceisiadau TEF eu hasesu gan banel adolygu sy'n cynnwys academyddion, cyflogwyr a myfyrwyr.

Rhannu’r stori hon

Eisiau gwybod mwy am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd? Mae'n myfyrwyr yn barod i rannu eu profiadau ac ateb eich cwestiynau ar flog Barn ein myfyrwyr.