Ewch i’r prif gynnwys

‘Rydw i wedi gweld achos trychinebus o fam yn marw a cholli ei gefeilliaid’

30 Ionawr 2015

Professor Judith Hall with hospital equipment
Professor Judith Hall

Mae gweithdrefnau meddygol i achub bywydau yn cael eu haddysgu yn un o wledydd is-Sahara Affrica am y tro cyntaf, diolch i un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol.

Dim ond dau anesthetydd rhan-amser sydd â chymwysterau meddygol ar gyfer poblogaeth o fwy na dwy filiwn o bobl sy'n gweithio yn Namibia.

Ond mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Phrifysgol Namibia i newid hynny.

Bydd swyddogion a myfyrwyr meddygol yn dechrau'r cyntaf o dri chwrs anaesthesia dwys ar 2 Chwefror ym mhrifddinas Namibia, Windhoek.

Mae hyn yn digwydd cyn cwrs anaesthesia ôl-radd pedair blynedd, y cyntaf erioed yn y wlad.

Dywedodd yr Athro Judith Hall, sy'n arwain y prosiect: "Mae mamau'n marw, mae babanod yn marw. Rydw i'n gwybod, rydw i wedi gweld hyn yn digwydd ledled Affrica. Rydw i wedi gweld menyw yn teithio wyth awr i gyrraedd ysbyty am gymorth ac wedyn yn marw wrth iddi gyrraedd. A bu farw'r babi hefyd.  

"Rydw i wedi gweld achos trychinebus o fam yn marw ac yn colli ei gefeilliaid am ei bod wedi teithio mor bell, colli cymaint o waed ac wedi cael haint difrifol. 

"Rydw i wedi gweld babanod bach iawn yn marw am fod gan y fam malaria a doedd dim staff i adfywio a thrin y fam a'r babi. Pan rydych chi wedi arfer â phethau'n mynd yn iawn yma yng Nghymru, mae'n ofnadwy, yn arswydus mewn gwirionedd, gweld bywydau ifanc yn cael eu gwastraffu yn y fath fodd."

Mae'r hyfforddiant yn rhan o Brosiect Phoenix y Brifysgol, un o bum prosiect ymgysylltu cymunedol blaenllaw sy'n anelu at drawsnewid bywydau mewn cymunedau.

Bydd y tri chwrs hyfforddi anaesthesia dwys yn cael eu cynnal mewn tri lleoliad yn Namibia: Windhoek, Rundu ac Oshakati.

Bydd y cwrs cyntaf yn Windhoek yn darparu hyfforddiant ar gyfer hyd at gyfanswm o 18 o fyfyrwyr a staff meddygol dros bythefnos.

Bydd y cyrsiau eraill yn cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni.

Dywed yr Athro Hall y bydd yr hyfforddiant yn achub bywydau.

"Mae hyn yn arwyddocaol iawn gan nad yw anesthetyddion wedi cael hyfforddiant ffurfiol yn Namibia yn y gorffennol," dywedodd.

"Nid oes addysg ôl-radd yn Namibia o gwbl ac mae meddygon yn gyffredinol wedi dysgu wrth weithio.

"Dydy cael yr offer yn dda i ddim os nad oes gennych chi feddygon hyfforddedig.

"Mae pobl yn teithio'n bell iawn i gael gofal iechyd ac maen nhw'n marw ar y ffordd."

Bydd yr Athro Hall yn hyfforddi'r swyddogion a'r myfyrwyr meddygol ochr yn ochr â dau uwch anesthetydd arall sy'n gweithio yng Nghymru.

Mae'r cyrsiau dwys wedi cael cymorth ariannol gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol, sef sefydliad iechyd byd-eang sy'n gwella hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd mewn gwledydd tlotach.

Wedyn, bydd Prosiect Phoenix yn mynd â'r hyfforddiant ymhellach trwy sefydlu'r cymhwyster ôl-radd cyntaf erioed yn Namibia mewn anaesthesia ar y cyd â Phrifysgol Namibia.

Mae cynlluniau Phoenix yn cynnwys popeth o hyfforddi staff meddygol a hybu cyfathrebu ynghylch iechyd, i gryfhau ieithoedd lleol a chynyddu sgiliau mathemateg ymhlith myfyrwyr.

Mae'r prosiect wedi cael cefnogaeth gan Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia, Yr Anrhydeddus Petrina Haingura.