Ewch i’r prif gynnwys

50 mlynedd o addysg Therapi Galwedigaethol

29 Ionawr 2015

Princess Anne smiling with nursing staff standing and smiling behind

Caiff hanner can mlynedd o addysg therapi galwedigaethol yng Nghymru, sydd wedi helpu miloedd o bobl sy'n byw gyda materion iechyd a chymdeithasol i barhau â'u bywydau pob dydd, eu dathlu'n swyddogol heddiw (Dydd Iau 29 Ionawr).

Bydd Ei Huchelder Brenhinol, Y Dywysoges Frenhinol, sef Noddwr Coleg y Therapyddion Galwedigaethol, yn ymuno ag uwch swyddogion o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol a Choleg Therapyddion Galwedigaethol mewn cynhadledd drwy'r dydd ar gyfer cyn-fyfyrwyr, darlithwyr, staff a myfyrwyr.

Bydd y gynhadledd yn olrhain pa mor bell mae'r alwedigaeth wedi datblygu ers ei sefydlu am y tro cyntaf yng Nghymru ym 1964, ac yn dathlu'r cyfraniad hanfodol y mae therapyddion galwedigaethol yn ei wneud i iechyd a lles pobl.

"Rydym wrth ein boddau bod Ei Huchelder Brenhinol, Y Dywysoges Frenhinol, wedi cytuno i ymuno â ni er mwyn nodi 50 mlynedd o addysg therapi galwedigaethol yng Nghaerdydd yn swyddogol," meddai Dr Steven Whitcombe, sef Pennaeth Proffesiynol Therapi Galwedigaethol Prifysgol Caerdydd. 

"A hithau'n Noddwr Coleg y Therapyddion Galwedigaethol, mae'r Dywysoges Frenhinol yn hyrwyddwr blaenllaw ar gyfer ein galwedigaeth a'n gwaith hanfodol.

"Rydym yn gobeithio y bydd ein hymwelydd Brenhinol yn helpu i amlygu ein cyflawniadau a'r buddiannau y mae therapi galwedigaethol yn eu hachosi ar gyfer pobl yng Nghymru, y DU, a'r byd ehangach," ychwanegodd.

Dywedodd Julia Scott, sef Prif Weithredwr Coleg y Therapyddion Galwedigaethol: "Rydym yn hynod falch o hanes therapi galwedigaethol yng Nghymru ac o ymrwymiad parhaus Prifysgol Caerdydd i ragoriaeth mewn addysg therapi galwedigaethol.

"Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfarfod â rhai o'n pobl flaenllaw ym maes therapi galwedigaethol sy'n ymuno â ni heddiw i ddathlu cyflawniadau myfyrwyr ddoe a heddiw. "

Mae therapi galwedigaethol yn darparu cymorth i bobl o bob oedran y mae eu hiechyd o bosibl yn eu hatal rhag parhau â'u bywydau pob dydd.

Mae therapyddion galwedigaethol yn arfer ymagwedd gyfannol ac yn cynnig atebion ymarferol, boed yn blentyn sydd ag anabledd dysgu sydd angen help i ddarllen, neu rywun sydd ag arthritis cronig sy'n cael anawsterau â thasgau a gweithgareddau pob dydd.

Dechreuodd addysg therapi galwedigaethol yn gyntaf yng Nghaerdydd ym Medi 1964. O'i ddechreuad syml mewn tŷ teras bach yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, mae wedi tyfu i gyfleusterau addysgu newydd sbon o'r radd flaenaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae rhyw 2,000 o fyfyrwyr wedi graddio ers hynny gyda graddau mewn therapi galwedigaethol.

Nodwedd allweddol ar addysg therapi galwedigaethol yng Nghaerdydd fu hanes 30 mlynedd o ddefnyddio dysgu'n seiliedig ar broblemau. Mae datblygu sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn golygu eu bod yn fwy parod i fodloni anghenion amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol cynyddol gymhleth, ac yn bwysig, mae'n trosi'n ymarfer drwy ddatblygu eu hyder a'u cymhwysedd proffesiynol.

 therapi galwedigaethol bellach yn rhan o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, caiff myfyrwyr eu haddysgu mewn amgylchedd amlddisgyblaethol, sy'n sicrhau eu bod yn dysgu'n fuan i gydweithio gyda phobl broffesiynol eraill ym myd iechyd ac yn golygu eu bod yn fwy tebygol o weithio'n effeithiol gyda'i gilydd mewn lleoliadau clinigol.

Yn ogystal â chlywed cyfres o areithiau gan staff a myfyrwyr ddoe a heddiw, bydd Ei Huchelder Brenhinol, y Dywysoges Frenhinol, hefyd yn cael cyfle i ymweld â chyfleusterau'r Ysgol a gweld yn uniongyrchol yr offer a'r technegau diweddaraf a siarad â staff, myfyrwyr a chleifion.

Ychwanega Dr Whitcombe: "Fel rhan o ddathliadau'r diwrnod, rydym yn edrych ymlaen at ddangos ein clinig therapi galwedigaethol newydd i blant i'r Dywysoges Frenhinol.

"Mae'r clinig, a agorwyd yn 2014, a'r cyntaf o'i fath yng Nghymru,  yn rhoi cyfleoedd ar gyfer asesu a thrin anhwylderau datblygiadol neu anawsterau o ran llawysgrifen, yn ogystal ag adnawdd hanfodol ar gyfer ein myfyrwyr."