Ewch i’r prif gynnwys

Camerâu sy’n synhwyro ymladd i leihau troseddu ar strydoedd Prydain

12 Chwefror 2015

CCTV cameras

Mae prosiect gwerth miliwn o bunnoedd i ddatblygu camerâu 'clyfar' sy'n synhwyro trais ar y strydoedd yn cael ei ddatblygu gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae arbenigwyr cyfrifiadureg a thrais yn cydweithio gydag arbenigwyr technoleg o Airbus Group i ddatblygu system a fydd yn adnabod trafferth yn datblygu ac yn rhoi gwybod i'r heddlu cyn i unrhyw un gael ei niweidio.

Bydd yr astudiaeth yn datblygu technoleg ddelweddu a fydd yn rhybuddio gweithredwyr teledu cylch cyfyng fel mater o drefn pan fydd ymladd yn cael ei ganfod ar gamerâu yng nganol dinasoedd.

Mae systemau teledu cylch cyfyng 'clyfar' yn bodoli eisoes ac maent yn gallu cyfrif pobl ac adnabod ceir. Ond bydd prosiect Caerdydd yn mynd ymhellach trwy ddadansoddi torfeydd nos i roi rhybuddion 'amser real', gan helpu atal anafiadau difrifol a lleihau costau i wasanaethau iechyd.

Dywedodd yr Athro Simon Moore o Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd: "Mae datblygu technoleg camerâu 'clyfar' sy'n gallu adnabod trais yn ffordd gost-effeithiol o gynorthwyo'r heddlu i wneud eu gwaith. Nid yw swyddogion yn gallu monitro cannoedd o gamerâu teledu cylch cyfyng yng nghanol dinasoedd drwy'r amser.

"Wrth ddefnyddio technoleg ddelweddu, bydd swyddogion yn cael rhybudd am fannau â phroblem drais mewn amser real, gan helpu i leihau trais ymhellach. Mae'n ffordd wych o ddefnyddio technoleg i wneud y strydoedd yn fwy diogel i bawb ohonom."

Ychwanegodd yr Athro David Marshall o Ysgol Gyfrifiadureg y Brifysgol: "Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar gydweithio gweithredol gyda'r Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas ac arbenigedd ymchwil mewn dadansoddi fideo. Mae canfod trais mewn delweddau camerâu teledu cylch cyfyng yn cyflwyno rhai heriau technegol diddorol oherwydd yr amser o'r dydd (yn ystod y nos), yr angen i weithredu ym mhob tywydd, safleoedd camerâu ac adnabod gweithgareddau pobl sy'n gallu bod yn gymhleth mewn delweddau o'r fath."

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Airbus Group (EADS yn flaenorol) a Llywodraeth Cymru. Mae Airbus yn datblygu'r seilwaith technolegol, tra bod Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid.

Mae ymladd ar strydoedd yn costio miliynau o bunnoedd i drethdalwyr bob blwyddyn. Mae'r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif bod achos cyfartalog o drais yn costio mwy na £33,000 i'r GIG a'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol ac mewn oriau gwaith a gollir a'r effaith ar ddioddefwyr.

Cefnogir y prosiect gan Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu. Dywedodd Adrian Lee, Prif Gwnstabl Swydd Northampton a swyddog arweiniol y gymdeithas ar gyfer alcohol a thrwyddedu: "Wrth i galedi barhau mewn plismona mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â'r byd academaidd i ddatblygu sail dystiolaeth o wybodaeth er mwyn sicrhau bod swyddogion ac adnoddau yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl. Rwyf yn falch i gefnogi'r ymchwil hwn gan yr Athro Simon Moore a'i dîm a fydd, gobeithio, yn nodi ffyrdd o ragweld anhrefn posibl yn economi'r nos fel mater o drefn, fel y gallwn anfon swyddogion cyn iddo ddigwydd."

Dywedodd Gary Clayton o EADS Foundation Wales: "Rydym yn falch i barhau ein hanes o gefnogi arloesedd o fewn y rhanbarth. Wrth gefnogi gwaith ymchwil o safon fyd-eang gan Brifysgol Caerdydd, rydym wedi'n cyffroi gan y potensial i adeiladu cymunedau lleol gwell."

Datblygodd y prosiect o waith ymchwil gwreiddiol a wnaed gan Kaelon Lloyd, sy'n fyfyriwr PhD yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol.

Dywedodd Mr Lloyd: "Fel myfyriwr ymchwil, roeddwn yn cymryd rhan mewn datblygu meddalwedd sy'n cynorthwyo arsylwyr teledu cylch cyfyng i adnabod trais trwy fodelu deinameg golygfeydd. Mae'r profiad wedi fy helpu i ddeall yr effaith gadarnhaol y gallai dadansoddi fideo ei gael ar gymdeithas; cefais fy ysgogi a'm gwthio gan y wybodaeth hon, ynghyd â nifer o heriau technegol diddorol, i gynnal gwaith ymchwil pellach yn y maes, a rhoddodd ganolbwynt ar gyfer fy nhraethawd hir israddedig ac arweiniodd at fy ngwaith ymchwil PhD."

Mae'r prosiect yn cydweddu â fframwaith adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru ar gyfer canol trefi, cymunedau arfordirol ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Rhannu’r stori hon