Ewch i’r prif gynnwys

Melin drafod yng Nghymru yn nodi blwyddyn gyntaf llwyddiannus

28 Ionawr 2015

Public Policy Institute For Wales

Heddiw, mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, yn noddi digwyddiad ym Mae Caerdydd i nodi blwyddyn gyntaf hynod o lwyddiannus ar gyfer y felin drafod annibynnol, a gynhelir gan y Brifysgol ac a arweinir gan yr Athro Steve Martin o Ysgol Fusnes y Brifysgol.

Ar ôl ymsefydlu'n gyflym yn rhan o gymuned polisïau Cymru, mae'r PPIW wedi ymgymryd â 25 o ddarnau o waith ar gyfer Llywodraeth Cymru ar ystod eang o bynciau, ac wedi denu £1 miliwn ychwanegol o gyllid ymchwil i Gymru ers y dechrau. Mae hefyd wedi denu cefnogaeth ychwanegol gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i ymuno â'r What Works Network ledled y DU i sicrhau ymgysylltiad â'r gymuned bolisïau yng Nghymru, ac wedi lansio rhaglen a ariennir gan yr ESRC o ymchwil ar fynd i'r afael â thlodi.

Bydd cyfnod nesaf gwaith y Sefydliad yn cynnwys cyfres newydd o brosiectau a gomisiynir gan Weinidogion unigol, ynghyd â dadansoddiad a chyngor ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a mynd i'r afael â thlodi, sef dwy flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.

Wrth wneud sylwadau ar y pen-blwydd,  dywedodd Carwyn Jones AM, Prif Weinidog Cymru: "Pan wnaethom ymrwymiad yn ein maniffesto yn 2011, ac wedyn yn ein Rhaglen Llywodraethu i sefydlu Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, gwnaethom hynny oherwydd ein bod eisiau arbenigedd, her a meddwl newydd i'n helpu fel llywodraeth i adnabod blaenoriaethau a sefydlu polisïau mwy cadarn. 

"Yn ei flwyddyn gyntaf, mae'r PPIW eisoes wedi cyflawni'r dyheadau hynny.  Rydym yn defnyddio'r cyngor hwn i arwain ein penderfyniadau, i ffocysu ein hymyraethau, i dargedu ein polisïau.  Mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru eisoes wedi sefydlu ei hun fel rhan bwysig o'r 'dirwedd' polisi yma yng Nghymru, ac  edrychaf ymlaen at ei lwyddiant parhaus yn y flwyddyn i ddod."

Ychwanegodd yr Athro Syr Adrian Webb, sef Cadeirydd Bwrdd Llywodraethu PPIW: "Bu hon yn flwyddyn gyntaf hynod o gynhyrchiol i'r PPIW. Mae'r llu o arbenigwyr sy'n arwain y byd sydd wedi cyfrannu adroddiadau wedi cynnig mynediad at gyngor a dadansoddi annibynnol y gofynnwyd i ni ei ddarparu.  Drwy gydweithio â Phrifysgol De Cymru a'r prifysgolion yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth, mae'r PPIW wedi tynnu arbenigedd ynghyd o bob cwr o Gymru.  Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith drwy 2015 a'r tu hwnt."

Mae academyddion o Brifysgol Caergrawnt, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Southampton a Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, wedi ymuno â rhwydwaith y Sefydliad o arbenigwyr, ynghyd â melinau trafod a sefydliadau ymchwil yng Nghymru a'r tu hwnt. 

Ychwanegodd yr Is-ganghellor, Yr Athro Colin Riordan: "Mae ein canlyniadau rhagorol o ran y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sef ein bod yn y pumed safle yn genedlaethol ymhlith prifysgolion ymchwil ar raddfeydd sy'n seiliedig ar ansawdd, yn dangos ein hymrwymiad a'n cynnydd o ran datblygu prosiectau ymchwil gorau'r byd. Mae cynnal Sefydliad megis y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn elfen bwysig o ran sicrhau ein bod yn parhau i fod ymhlith prifysgolion ymchwil gorau'r byd.  Rwy'n falch o weld bod nifer o academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu adroddiadau yn y flwyddyn gyntaf, sy'n cael effaith gadarnhaol ar bolisïau cyhoeddus yng Nghymru.  Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r PPIW wrth iddynt barhau â'u gwaith pwysig."

Rhannu’r stori hon