Ewch i’r prif gynnwys

Alesi Surgical yn codi £5.2m

13 Mehefin 2017

Alesi Surgical

Mae cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, Alesi Surgical Limited, wedi codi £5.2m gan fuddsoddwyr newydd a phresennol.

Mae'r prif arloeswr ym maes technolegau llawfeddygaeth llai ymwthiol – gan gynnwys dyfais Ultravision, y cyntaf o'i math yn y byd – wedi denu buddsoddiad gan ddau gwmni cyfalaf menter technoleg feddygol blaenllaw yn Ewrop, Panakes Partners ac Earlybird, gyda chefnogaeth barhaus gan gyfranddalwyr presennol Alesi Surgical, IP Group ccc a Chyllid Cymru ccc.

Bydd yr arian galluogi Alesi Surgical ac Ultravision i ehangu i'r Unol Daleithiau a marchnadoedd allweddol eraill ledled y byd, ac yn galluogi ymchwil a datblygiad ychwanegol o gwmpas technoleg newydd Ultravision.

Mae Alesi Surgical, a leolir yn Medicentre Caerdydd, wedi penodi tri chyfarwyddwr newydd, a chryfhau ei fwrdd gydag arbenigwyr allweddol. Mae Phil Cooper, cyn-Lywydd Molnlycke Healthcare, wedi ymuno fel cyfarwyddwr anweithredol, yn cael ei gydnabod fel arweinydd ym maes masnach fyd-eang a thwf cwmnïau preifat yn y sector technoleg feddygol.

Fel rhan o'r buddsoddiad bydd Mr Thom Rasche, Partner yn Earlybird ac Is-Lywydd Ewrop yn Ethicon Endosurgery yn flaenorol; a Mr Alessio Beverina, Partner a Sylfaenydd Panakes Partners, yn ymuno â'r bwrdd fel buddsoddwyr a chyfarwyddwyr.

Dywedodd Dr Dominic Griffiths, Rheolwr Gyfarwyddwr Alesi Surgical: "Mae Earlybird a Panakes yn gwmnïau cyfalaf menter uchel iawn eu parch o Ewrop, ac mewn amgylchedd cyllido mor gystadleuol, mae eu diddordeb mewn Alesi ac UltravisionTM yn dweud llawer am ein potensial..."

"Gyda'r tri ychwanegiad newydd i'r bwrdd rydym wedi ehangu ein harbenigedd yn y farchnad hon, ac mae cael pedwar o fuddsoddwyr corfforaethol yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i dyfu yn y dyfodol."

Dr Dominic Griffiths, Alesi Surgical

Codwyd yr arian ar ôl i brif blatfform technoleg berchenogol  y cwmni, UltravisionTM, gael ei gymeradwyo'n ddiweddar gan yr FDA (Food and Drug Administration) yn yr UDA, a Gweinyddiaeth Iechyd Siapan, ac o ganlyniad i'w lwyddiant masnachol mewn marchnadoedd lle mae eisoes wedi'i gymeradwyo yn Ewrop a'r Dwyrain Canol.

System UltravisionTM yw'r cyntaf yn y byd i ddefnyddio technoleg electrostatig i glirio anwedd a gronynnau – a elwir yn "fwg llawfeddygol" – a gynhyrchir gan offer torri llawfeddygol modern yn ystod llawfeddygaeth twll clo (laparosgopig) ar yr abdomen.

Mae'r ddyfais feddygol chwyldroadol hon yn cynhyrchu gwefr electrostatig ynni isel, ac yn gallu ei wneud yn haws o lawer i lawfeddygon weld wrth weithio, drwy gael gwared ar fwg llawfeddygol wrth iddo gael ei gynhyrchu gan yr offeryn sy'n torri. Mae lleihau faint o fwg llawfeddygol y mae gweithwyr gofal iechyd yn dod i gysylltiad ag ef yn gynyddol bwysig ledled y byd, oherwydd pryderon ynglŷn â'r risg hirdymor i'w hiechyd.

Prifysgol Caerdydd yw Sefydliad Addysg Uwch mwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer arloesedd. Mae'r Brifysgol yn y 7fed safle yn y DU, a safle 45 yn Ewrop ar gyfer arloesedd yn ôl Thompson Reuters.

Rhannu’r stori hon

Cydweithiwch gyda ni drwy ein prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori, trosglwyddo technoleg a mwy