Ewch i’r prif gynnwys

Dysgwch Gymraeg drwy ymuno â Chwrs Haf Dwys Caerdydd

13 Mehefin 2017

Dewch i ddysgu neu fireinio eich Cymraeg, gyda Cymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymrestru wedi cael ei ymestyn i 19 Mehefin 2017. Mae cyrsiau ar gael o lefel dechreuwyr pur hyd at lefel gloywi.

Mae’r cyrsiau’n hyblyg iawn ac mae modd ichi fynychu cwrs am 2 wythnos, 4 wythnos, 6 wythnos neu 8 wythnos. Mae cyrsiau Gloywi Iaith 1 wythnos ar gael hefyd.

Eleni, cynigir ysgoloriaethau (gostyngiad 50% o ffioedd) ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynychu cyrsiau Canolradd neu Uwch am bythefnos. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Yn ogystal â’r gwersi ffurfiol cynhelir nifer o weithgareddau cymdeithasol dros yr haf fel bod modd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill a siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae hon yn elfen bwysig o’r rhaglen ac yn gyfle i adeiladu rhwydwaith Gymraeg.

Gwnewch rywbeth gwahanol dros yr haf a dysgwch y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau a’ch lefel, cysylltwch heddiw: info@learnwelsh.co.uk / 089 2087 4710.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch ragor am y cyrsiau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.