Ewch i’r prif gynnwys

SciSports yn ennill Cystadleuaeth Arloesedd Chwaraeon (SPIN) UEFA

13 Mehefin 2017

SPIN Final

Mae cwmni sy'n cymharu data pêl droedwyr i helpu clybiau i ddod o hyd i sêr y dyfodol sydd wedi eu tanbrisio wedi ennill Rownd Derfynol Arloesedd Chwaraeon (SPIN) UEFA yng Nghaerdydd.

Mae SciSports yn dadansoddi ystadegau mwy na 350,000 o chwaraewyr ledled y byd i ragweld ansawdd, twf a photensial chwaraewyr.

Roedd y cwmni ymhlith 10 o gwmnïau oedd yn cystadlu yn Rownd Derfynol SPIN Sefydliad Hype ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddaeth â busnesau newydd byd-eang at ei gilydd i gyflwyno i banel o feirniaid rhyngwladol, yn debyg i raglen Dragon's Den.

Giels Brouwer, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y cwmni, oedd yn cynrychioli SciSPorts yng Nghaerdydd, ynghyd â'r rheolwr gwerthiannau, Simon Rödder.

"Roedd y digwyddiad yn anhygoel..." meddai Giels.

"Cawsom brofiad gwych yn cwrdd â'r busnesau eraill, yn cyflwyno, ac yn cydweithio gyda Sefydliad Hype a Phrifysgol Caerdydd. Mae hi'n ddinas wirioneddol wych, ac mae'r ffaith i ni ennill y digwyddiad hwn yn anhygoel."

Giels Brouwer, SciSports

"Mae SciSports wedi creu mynegai y gallwn ei ddefnyddio i gymharu chwaraewyr Barcelona â chwaraewr yn ail gynghrair Periw. Mae hyn yn ein helpu i ddod o hyd i chwaraewyr sydd wedi eu tanbrisio, dod o hyd i swyddi pêl droed gwell ar eu cyfer, a helpu clybiau i ddatblygu."

Datblygwyd SciSports, sydd â 45 o staff, yn 2012 fel cwmni deillio o Brifysgol Twente yn yr Iseldiroedd, ac mae'r cwmni'n gweithio gyda chlybiau ac asiantwyr ledled y byd.

Mae'r pecyn, SciSkill, yn helpu clybiau i ragweld canlyniadau gemau a graddio chwaraewyr i ddod o hyd i rai talentog newydd ledled y byd.

Platfform byd-eang yw Sefydliad HYPE, sy'n cysylltu ac yn buddsoddi mewn arloesedd chwaraeon.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Amir Raveh: "Mae SciSports yn enillydd haeddiannol o blith y deg o gystadleuwyr rhagorol. Roedd Rownd Derfynol SPIN yn rhoi cipolwg ar y dyfodol agos – lle bydd arloesedd yn cael ei integreiddio fel rhan naturiol o unrhyw gêm bêl droed, ac yn gwella pob elfen ohoni. Rydw i wrth fy modd i ddathlu dyfodol chwaraeon gyda busnesau newydd o'r radd flaenaf ac arweinwyr y diwydiant sy'n gwthio i gyflwyno newidiadau."

Roedd y 10 o fusnesau bach a gymerodd ran yn cynnwys meddalwedd sy'n helpu hyfforddwyr i reoli gemau, dyfais sy'n gwella sgiliau pasio chwaraeon, ac ap ar gyfer sioeau golau dan arweiniad cefnogwyr.

Cynhaliwyd Rownd Derfynol SPIN gerbron uwch feirniaid o UEFA, FC Barcelona, Adidas, Amazon a Microsoft.

Dywedodd cadeirydd y beirniaid, Bernd Wahler, cyn-Brif Swyddog Marchnata Adidas, Llywydd VfB STUTTGART: "Roedd ansawdd y busnesau'n rhagorol, ac roedd dewis enillydd yn anodd: mae pob un o'r busnesau hyn yn bencampwyr am eu bod yn dangos y ffordd o ran dyfodol pêl droed."

Cafwyd tîm buddugol mewn hacathon i fyfyrwyr i nodi'r digwyddiad. Cyflwynodd Marina Kovalera a Thomas Hughes o'r Ysgol Peirianneg syniad am hysbysebion sgrîn-ar-grys, ac ennill £200 yr un gan Santander, ynghyd â chyfle i gyflwyno eu syniad i'r beirniaid.

Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion fodern Ysgol Busnes Caerdydd ddiwrnod cyn i'r arwr lleol, Gareth Bale, godi tlws Gêm Derfynol Champions League i Real Madrid ar ôl eu buddugoliaeth 4-1 yn erbyn Juventus.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.