Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cadw Gwobr Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Ymchwilwyr

23 Ionawr 2015

HR Research Excellence

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadw gwobr Ewropeaidd fawreddog am ei hymrwymiad i gefnogi a datblygu ei hymchwilwyr.

Mae Caerdydd yn un o'r deg prifysgol gyntaf yn y DU i gael eu gwerthuso'n allanol ar gyfer y Wobr Rhagoriaeth AD mewn Dyfarnu Ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae hi bellach wedi llwyddo i gadw'r Wobr yn dilyn yr adolygiad allanol pedair blynedd. Mae dau sefydliad arall wedi cadw'r Wobr hefyd yn sgil eu hadolygiadau dwy flynedd.

Cyhoeddwyd y canlyniadau heddiw gan Ellen Pearce, Cyfarwyddwr Vitae, ar ran panel y DU, yn nigwyddiad Vitae 'Rhagoriaeth AD mewn Dyfarnu Ymchwil: archwilio strategaethau ar gyfer gwerthuso a chyfeiriadau yn y dyfodol' yn Llundain.

Mae'r Wobr yn dangos ymrwymiad prifysgol i wella amodau gweithio a datblygu gyrfa ar gyfer staff ymchwil, a fydd yn ei dro yn gwella maint, ansawdd ac effaith gwaith ymchwil er budd cymdeithas y DU a'r economi.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gaerdydd. Mae ein canlyniadau rhagorol yn y REF yn dangos yn glir bod cefnogi a datblygu ein hymchwilwyr yn hanfodol os ydym ni am barhau i gynhyrchu gwaith ymchwil o'r radd flaenaf."

Ychwanegodd y Dr Lydia Hayes, Cadeirydd Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd: "Mae Caerdydd wedi bod yn weithgar iawn yn ymgynghori a chynnwys ei staff ymchwil ei hun mewn cynllunio cynlluniau a thargedau AD ar gyfer y dyfodol. Mae'r wobr hon yn cydnabod bod awydd Prifysgol Caerdydd i geisio sicrhau gwelliant sefydliadol parhaus yn hanfodol ar gyfer denu a chadw doniau ymchwil. Trwy weithio gyda'i Chymdeithas Staff Ymchwil, mae Prifysgol Caerdydd wedi dangos rhagoriaeth yn ei chefnogaeth ar gyfer ymchwilwyr."

Wrth siarad o Frwsel, dywedodd Peter Dröll (Cyfarwyddwr Dros Dro), y Comisiwn Ewropeaidd, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd, Undeb Arloesedd a Maes Ymchwil Ewropeaidd:

"Mae Ymchwil ac Arloesedd yn hanfodol i sicrhau ffyniant a thwf yn y dyfodol. Wrth i ni ddathlu deng mlynedd ers lansio'r Siarter Ewropeaidd a'r Cod ar gyfer Ymchwilwyr, mae'n bleser gennyf longyfarch y prifysgolion cyntaf yn y DU i lwyddo mewn gwerthuso eu strategaethau AD yn allanol ar gyfer ymchwilwyr. Mae hwn yn ddiwrnod da i'r Maes Ymchwil Ewropeaidd".

Mae 205 o sefydliadau i gyd wedi ennill y Wobr erbyn hyn, sydd hefyd yn golygu eu bod wedi ymrwymo i raglen o werthuso mewnol ac allanol.

Mae'r adolygiad allanol yn gofyn i sefydliadau amlygu cyflawniadau a chynnydd allweddol a wnaed ganddynt ers iddynt ennill y Wobr bedair blynedd yn ôl ac amlinellu ffocws eu strategaeth, eu mesurau llwyddiant a'r camau nesaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

Mae proses ledled y DU yn galluogi sefydliadau addysg uwch yn y DU i gael bathodyn y 'Rhagoriaeth AD mewn ymchwil' y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n cydnabod eu bod yn cytuno ag egwyddorion y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ymchwilwyr a'r Cod Ymddygiad ar gyfer eu Recriwtio. Mae proses y DU yn ymgorffori Cod Ymarfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) ar gyfer Rhaglenni Gradd Ymchwil a'r Concordat i Gefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr i alluogi sefydliadau sydd wedi cyhoeddi cynlluniau gweithredu Concordat i gael y bathodyn 'Rhagoriaeth AD mewn ymchwil'. Mae ymagwedd y DU yn cynnwys gwerthuso a meincnodi cenedlaethol parhaus.

Rhannu’r stori hon