Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan newydd i ddatblygu proffil ymchwil Caerdydd yn Ewrop

21 Ionawr 2015

European Flags

Mae corff sy'n cynrychioli gwyddonwyr ac ysgolheigion o bob cwr o Ewrop, gan gynnwys pum deg dau Nobel Llawryfol, wedi cyhoeddi ei fwriad i sefydlu canolfan yn y Brifysgol.

Bydd Academia Europaea (AE), sefydliad anllywodraethol Ewrop gyfan sydd â thros 3,000 o aelodau mewn meysydd o fathemateg i wyddorau cymdeithasol, yn agor Canolfan Wybodaeth ym mhrifddinas Cymru.

Canolfan i gyfnewid gwybodaeth, cymorth, datblygiadau a syniadau yw canolfan wybodaeth.

Bydd y ganolfan newydd, sy'n cael ei lansio yn ddiweddarach eleni, yn darparu cyfleuster ar gyfer codi ymwybyddiaeth am ragoriaeth ymchwil prifysgolion Cymru er mwyn sbarduno cydweithio newydd, mewnfuddsoddi a rhwydweithiau arbenigedd ledled Ewrop.

Bydd yn ceisio annog cysylltiadau rhwng Canolfannau Gwybodaeth eraill AE hefyd, sy'n gweithredu yn Wroclaw, Barcelona a Bergen, tra'n hyrwyddo partneriaethau rhwng sefydliadau AU yng Nghymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Disgwylir y bydd y Ganolfan yn datblygu ystod o weithgareddau rhyngwladol o ansawdd uchel, gan gynnwys ar gyfer y canlynol, er enghraifft: ysgolion haf, cynadleddau, gweithdai a mentrau yn seiliedig ar brosiectau rhyngddisgyblaethol.

Daeth y cyhoeddiad mewn darlith a draddodwyd neithiwr gan Lywydd newydd Academia Europaea a etholwyd yn ddiweddar, yr Athro Sierd Cloetingh, a soniodd am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu gwyddoniaeth Ewropeaidd.

Roedd enghreifftiau o gydweithio ymchwil Ewropeaidd mawr, rôl "dyngedfennol" Cyllid Gwyddoniaeth Ewropeaidd, a rôl AE yn yr 'Agenda Ewropeaidd', ymhlith y testunau yr ymdriniodd yr Athro Cloetingh â nhw yn ei anerchiad.

Teitl y ddarlith oedd 'Heriau a chyfleoedd ar gyfer gwyddoniaeth yn Ewrop: safbwyntiau o ERC ac Academia Europaea', ac fe'i cyflwynwyd yn Ysgol y Biowyddorau, Caerdydd – cartref i ddau enillydd Gwobr Nobel: Syr Martin Evans a'r Athro Robert Huber.

Dywedodd Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams o Brifysgol Caerdydd:

"Rwyf wrth fy modd fod y sefydliad mawreddog, Academia Europaea, wedi dewis sefydlu un o'i ganolfannau gwybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn brawf pellach o safbwynt byd-eang cymuned ymchwil Cymru – yn ôl adroddiad diweddar gan Elsevier, mae ein hymchwilwyr yn cydweithio'n rhyngwladol yn amlach na'u cyfoedion yn unman arall yn y DU – ac mae hyn yn tanlinellu enw da cynyddol y brifysgol, sydd wedi cael ei ddangos mor drawiadol gan ei pherfformiad rhagorol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).  Mae cydnabyddiaeth ryngwladol yn bwysig wrth adeiladu canolfan ymchwil hyd yn oed yn fwy llwyddiannus yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi datblygiadau yn y maes hwn yn y dyfodol."

Dywedodd Llywydd Academia Europaea, yr Athro Sierd Cloetingh:

"Mae Academia Europaea yn edrych ymlaen at weithio'n agos â Phrifysgol Caerdydd, er mwyn sefydlu Canolfan Wybodaeth effeithiol, a fydd yn ychwanegu at ei Ganolfannau Gwybodaeth sy'n bodoli eisoes yn Wroclaw, Barcelona a Bergen. Rwy'n argyhoeddedig y bydd hyn yn fuddiol i Brifysgol Caerdydd a'r Academi fel ei gilydd, o ran creu cysylltiadau newydd gwerthfawr rhwng y Prifysgolion yng Nghymru, yn ogystal â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac Ewrop yn gyffredinol."

Mae Sierd Cloetingh yn Athro Gwyddorau'r Ddaear ym Mhrifysgol Utrecht ac fe gafodd ei ethol i fod yn aelod o Academia Europaea ym 1994. Trwy wahoddiad yn unig y daw rhywun yn aelod o'r corff.

Sefydlwyd Academia Europaea ym 1988 gyda'r diben o wella dealltwriaeth gyhoeddus o wyddoniaeth, rhoi cyngor annibynnol a chynyddu symudedd ysgolheigion yn Ewrop.

Un o'i brif nodau yw hyrwyddo gwerthfawrogiad ehangach o werth ysgolheictod ac ymchwil Ewropeaidd; gwneud argymhellion i lywodraethau cenedlaethol ynghylch materion sy'n effeithio ar wyddoniaeth ac ysgolheictod yn Ewrop; ac annog ymchwil ryngddisgyblaethol ym mhob maes dysgu.

Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Prifysgol Caerdydd y pumed safle yn y DU yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ar sail ansawdd ei gwaith ymchwil, gan godi 17 lle er 2008, sy'n golygu mai hi yw'r Brifysgol sy'n gwneud y cynnydd cyflymaf ymhlith Prifysgolion Grŵp Russell.

Yn ôl asesiadau gan banelwyr annibynnol, roedd 87% o'r gwaith ymchwil a gyflwynwyd gan y Brifysgol yn flaengar neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon