Ewch i’r prif gynnwys

Cynghrair GW4 i lansio cyfleuster microsgopeg arloesol

8 Mehefin 2017

Microscopic image of molecular components

Bydd Cynghrair GW4 yn agor cyfleuster a rennir ar gyfer cryo-microsgopeg ar 1 Medi 2017 ym Mhrifysgol Bryste. Fe gostiodd y cyfleuster £2.3m.

Bydd y cyfleuster yn cynnig cyfres o gyfarpar microsgopeg a dadansoddi i ymchwilwyr ar draws rhanbarth Cymru a de-orllewin Lloegr. Bydd hyn yn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o brosesau moleciwlaidd sy'n gyfrifol am p'un a yw celloedd yn gweithio neu'n methu.

Gyda lwc, bydd y cyfleuster GW4 a rennir yn ein galluogi i gael gwybodaeth newydd am iechyd a chlefyd dynol yn gyflymach. Bydd hefyd yn denu gwyddonwyr mwyaf talentog y byd i gydweithio â phrifysgolion blaenllaw yn y rhanbarth.

Cafodd y cyfleuster ei sefydlu gyda chymorth dyfarniadau gan Ymddiriedolaeth Wellcome a chyd-fuddsoddi gan brifysgolion Cynghrair GW4. Adeilad Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Bryste fydd ei gartref yn rhan o Gyfleuster Bioddelweddu Wolfson.

Yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes bioleg foleciwlaidd

Meddai'r academydd arweiniol, yr Athro Christiane Schaffitzel o Brifysgol Bryste: “Rydym wrth ein bodd fod yr ymdrech hon ar y cyd gan Gaerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg wedi dwyn ffrwyth...”

“Mae cryo-microsgopeg yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes bioleg foleciwlaidd. Bydd gan ein cyfleuster newydd rôl hollbwysig er mwyn cyflymu prosiectau arloesol llawer o wyddonwyr yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.”

Yr Athro Christiane Schaffitzel Brifysgol Bryste

Meddai'r Athro Philip Ingham FRS FMedSci HonFRCP, Cyfarwyddwr Sefydliad Systemau Byw Prifysgol Caerwysg: “Bydd sefydlu'r cyfleuster modern hwn yn hollbwysig er mwyn atgyfnerthu safle sefydliadau GW4 ar flaen y gad ym maes ymchwil biomeddygol. Mae microsgopeg cryo-electron yn chwyldroi'r maes ac yn trawsnewid sut rydym yn dadansoddi cydrannau moleciwlaidd systemau byw...”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Wellcome am eu cefnogaeth gan na fyddai'r fenter hon wedi bod yn bosibl fel arall.”

Yr Athro Philip Ingham Cyfarwyddwr Sefydliad Systemau Byw Prifysgol Caerwysg

Meddai'r Athro Dylan Jones OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. “Bydd y cyfleuster newydd hwn yn rhoi cyfle gwych i ymchwilwyr sefydliadau GW4 astudio strwythur moleciwlau biolegol yn eglur iawn. Bydd yn trawsnewid ein dealltwriaeth o fecanweithiau moleciwlaidd iechyd ac afiechyd, ac yn meithrin cyfleoedd newydd i gydweithio rhwng grwpiau ymchwil yng Nghynghrair GW4.”

Bydd y digwyddiad yn arddangos rhinweddau modern Cyfleuster Cryo-Microsgopeg Electron Eglur Iawn GW4, Bydd hefyd yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym maes gwyddorau bywyd o bob rhan o Gynghrair GW4 ynghyd i drafod syniadau ymchwil a chyfleoedd i gydweithio.

Cewch ragor o wybodaeth am y lansiad yn: http://gw4.ac.uk/all-events/symposium-and-launch-gw4-cryo-em-facility/

Sefydlwyd GW4 yn 2013 ac mae'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg i gyflwyno ymchwil o safon ryngwladol a chreu gweithlu hynod fedrus.

Rhannu’r stori hon

Yn dod â phedair o'r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y DU at ei gilydd; prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.