Ewch i’r prif gynnwys

Protest music and song

19 Ionawr 2015

Five songs that shook the world

Mae myfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd wedi cael comisiwn ar gyfer prosiect digidol newydd yn archwilio cerddoriaeth a chaneuon protest trwy gyfryngau cymdeithasol.

Comisiynwyd y prosiect (Occupation - Five songs that shook the world) gan Opera Cenedlaethol Cymru a The Space. Fel rhan o'r prosiect bydd pum cyfansoddwr, gan gynnwys Dan-Wyn Jones sydd wedi graddio o'r Ysgol Cerddoriaeth, yn cyfansoddi gwaith gwreiddiol mewn ymateb i brotestiadau ac argyfyngau ar draws y byd.

Mae caneuon y pedwar cyfansoddwr cyntaf - Carleen Anderson, Judith Weir, High Contrast a Cerys Matthews – ar gael i wrando arnynt ac i'w lawrlwytho ar-lein.

Bydd darn Dan-Wyn yn cael ei ryddhau ar 23 Ionawr 2015 ac yn adlewyrchu rôl cyfryngau cymdeithasol mewn rhoi llais i'r cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae'n casglu sylwadau a safbwyntiau torfol er mwyn creu darn a fydd yn cynnwys geiriau a syniadau cyhoeddus. Gallwch leisio'ch barn ar Twitter ac Instagram gan ddefnyddio'r hashnod #Song5 neu trwy ddefnyddio'r ffurflen ar wefan y prosiect.

Graddiodd Dan-Wyn o gwrs MMus mewn Cyfansoddi yn y Brifysgol. Wrth drafod y prosiect, dywedodd: "Mae'r byd yn lle amrywiol a diddorol tu hwnt ac rwy'n gobeithio dangos ciplun o'r meddylfryd gwahanol sy'n bodoli yn y byd. Bydd y gân yn dathlu rhyddid mynegiant, protestiadau a safbwyntiau gwahanol bobl."

Trowch at flog y prosiect i ddarllen cyfweliad gyda Dan-Wyn Jones, lle mae'n trafod creu darn wedi'i gyfansoddi'n dorfol, ei berthynas bersonol â phrotestio, a'i ddylanwadau cerddorol.

Rhannu’r stori hon