Ewch i’r prif gynnwys

Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018

8 Mehefin 2017

QS WUR Badge - Top 150

Mae Prifysgol Caerdydd wedi codi tri safle mewn rhestr nodedig o brifysgolion gorau'r byd.

Cafodd Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018, sydd bellach yn ei 14eg flwyddyn, ei chyhoeddi heddiw (dydd Iau 8 Mehefin, 2017), ac mae Prifysgol Caerdydd yn safle 137 o blith y 959 o brifysgolion gorau'r byd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn dal i fod yn y safle uchaf o blith prifysgolion Cymru, a'r 22ain o blith y 76 o brifysgolion y DU ar y rhestr.

Mynd yn groes i'r duedd yn y DU

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd safle uwch ar Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018, o ystyried yr ansicrwydd a'r heriau enfawr y mae prifysgolion y DU wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Yng nghyd-destun y DU, roedd 11 o blith yr 16 o sefydliadau yng Ngrŵp Russell mewn safle is nag o'r blaen, ynghyd â 51 o'r 76 o brifysgolion y DU ar y rhestr.

“Rydym yn arbennig o falch, felly, i weld ein bod wedi mynd yn groes i'r duedd yn y DU, er gwaethaf yr holl ansicrwydd y bu'n rhaid i ni ei wynebu, a'n bod wedi llwyddo i wneud cam bach, ond cam pwysig, tuag i fyny.”

Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yw'r canllaw diffiniol i brifysgolion gorau'r byd.

Cyfrannodd barn arbenigol 75,015 o academyddion a 40,455 o gyflogwyr, gyda 12.3m o bapurau a 75.1m o ddyfyniadau, eu dadansoddi o gronfa ddata fibliometrig Scopus/Elsevier, er mwyn mesur effaith yr ymchwil a gynhyrchir gan y prifysgolion ar y rhestr.

Nod Prifysgol Caerdydd

Nod Prifysgol Caerdydd yw bod ymhlith y 100 o brifysgolion gorau'r byd.

Ychwanegodd yr Athro Riordan: “Ein nod yw cael ein cynnwys yn gyson o fewn y 100 o brifysgolion gorau'r byd. Wrth gwrs, mae bob amser lle i wella, ac mae cynnal ein safle byd-eang o ran addysgu, ymchwil ac arloesedd yn golygu bod yn rhaid i ni barhau i fuddsoddi a gweithio'n galed...”

“Er bod gennym lawer i'w wneud i gyflawni ein nod cyffredinol, mae'r canlyniad hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn dangos pa mor galed mae ein staff academaidd arloesol ac ymroddedig wedi gweithio.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd ar ôl i Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc gael ei gyhoeddi'n gynharach eleni.

Newyddiaduraeth oedd y pwnc yn y safle uchaf ym Mhrifysgol Caerdydd (safle 34), sy'n rhoi'r Brifysgol ymhlith y 50 o brifysgolion gorau'r byd ar gyfer pwnc Astudiaethau Cyfathrebu a'r Cyfryngau am y tro cyntaf.

Ymhlith pynciau eraill y Brifysgol a gafodd le amlwg yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn 2017 roedd Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (safle 39) a Seicoleg (safle 43).

Cafodd pynciau Prifysgol Caerdydd le mewn cyfanswm o 30 o’r 46 o bynciau, ac ym mhob un o’r pum cyfleuster sy’n cael eu cynnwys yn y rhestr.  Roedd deg pwnc yn y 100 uchaf, o gymharu ag wyth yn 2016, ac mae 23 o bynciau yn y 200 uchaf, o gymharu â 22 y llynedd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.