Ewch i’r prif gynnwys

Seicosis: taith o obaith a darganfod

6 Mehefin 2017

Portrait of Jonny Benjamin

Bydd yr ymgyrchwyr iechyd meddwl gwobrwyedig Jonny Benjamin a Neil Laybourn yn cyflwyno sgwrs gyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Iau 22 Mehefin fel rhan o Ŵyl Ymchwil Meddygol y Cyngor Ymchwil Meddygol.

Bydd y ddau, a ddaeth i'r amlwg yn dilyn rhaglen ddogfen Channel 4 Stranger on a Bridge, yn rhannu stori ryfeddol y ffordd yr helpodd ymgyrch byd-eang yn y cyfryngau cymdeithasol Jonny i ddod o hyd i'r dyn a siaradodd ag e a'i berswadio i lawr o bont Waterloo yn Llundain.

Gan symud y pwyslais at ymchwil, bydd Neil a Jonny'n cyfweld â Dr James Walters, Darllenydd yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Meddygol yn y Brifysgol, ar yr astudiaethau diweddaraf i seicosis a rôl geneteg seiciatrig.

“Newid rhai o'r agweddau hen ffasiwn hyn”

“Mae ymchwil yn hanfodol os ydym ni am weld gwell triniaethau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch meddwl, ac rwy'n credu bod rhai agweddau diwylliannol yn bodoli nad ydyn nhw’n helpu i ddylanwadu'r ffordd mae pobl yn canfod yr ymchwil hwn, yn enwedig mewn geneteg,” dywedodd Jonny, y dyfarnwyd MBE iddo yn gynharach eleni am wasanaethau i iechyd meddwl ac atal hunanladdiad.

Ychwanegodd: “Gallai’r cyfle i drafod yr ymchwil hwn yn agored gyda gwyddonwyr fod yn fuddiol iawn i newid rhai o'r agweddau hen ffasiwn hyn.”

Bydd Neil a Jonny hefyd yn trafod eu gwaith ymgyrchu, oedd yn cynnwys codi arian ar gyfer ymgyrch Heads Together, gan wella addysg iechyd meddwl mewn ysgolion a galw am well gwasanaethau i'r rheini sydd wedi'u heffeithio gan salwch meddwl.

“Ar hyn o bryd ceir momentwm a chymhelliad i fynd i'r afael â'r ffyrdd y caiff salwch meddwl ei stigmateiddio a'i danariannu mewn lleoliadau iechyd ac ymchwil...”

“Er mwyn i bethau newid mae angen i ni gael eiriolwyr pwerus a pharhaus ar gyfer gofal ac ymchwil iechyd meddwl. Mae Jonny a Neil yn arwain y ffordd gyda'r ymdrech hwn ac mae eu stori yn ysbrydoli.”

Yr Athro James Walters Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Cynhelir y sgyrsiau ddydd Iau 22 Mehefin, o 6.30pm yn Adeliad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd. I archebu lle ewch yma.

Rhannu’r stori hon

Mae datblygiadau mewn ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn golygu ein bod cam yn agosach at ddatrys y dirgelion tu ôl i anhwylderau seiciatrig a niwoddirywiol.