Ewch i’r prif gynnwys

Technoleg hunan-bwyso’n ennill gwobr arloesi

6 Mehefin 2017

Crude oil pump

Mae ymchwil a ddefnyddiodd wybodaeth sydd gennym eisoes i ddatblygu technoleg’ ‘hunan-bwyso’ wedi ennill gwobr arloesi.

Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd a Flintec UK, sy’n gweithgynhyrchu technolegau mesur pwysau a grym, wedi datblygu celloedd llwytho trydanol awtonomaidd ac awtonomaidd parod.

Mae celloedd llwytho’n ddyfeisiau sy’n troi grym neu bwysau’n signal trydanol, a ddefnyddir mewn cynhyrchion lle mae mesur pwysau’n hollbwysig: biniau clyfar, cerbydau hunan-bwyso a seilos storio amaethyddol.

Cydweithiodd y Brifysgol â Flintec drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG). Edrychasant am ffordd i integreiddio pedair technoleg allweddol - mesur straen, cyfathrebu diwifr, rheoli pŵer a cynaeafu ynni/trawsyrru pŵer - mewn un datrysiad pwyso cadarn, “clyfar” y gellir ei farchnata’n llwyddiannus.

Helpodd y canlyniadau i’r bartneriaeth ennill y wobr Arloesi Busnes yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

Meddai Dr Jonny Lees, yr Ysgol Peirianneg, a arweiniodd yr ymchwil academaidd: “Roedd angen i’r unedau synhwyro eu pweru eu hunain, i fanteisio ar ynni amgylchynol, a gallu storio’r ynni hwnnw mewn ffordd gywasgedig ac effeithlon. Roedd angen i’r synwyryddion allu cyfathrebu â’i gilydd ac roedd angen ystyried nifer o atebion cyfathrebu.”

Mae’r PTG wedi helpu Flintec i ddatblygu cell lwytho ddigidol gyfoes ddatblygedig ar gyfer dyfeisiau pwyso mawr (yn bennaf pontydd pwyso tryciau a seilos), ac mae wedi rhoi gwybodaeth i’r cwmni am dechnoleg cyfathrebu diwifr, electroneg ddigidol pŵer isel a chynaeafu ynni; pob un yn hanfodol i gynhyrchion yn y dyfodol.

Dywedodd Jeff Williams, Pennaeth Peirianneg Flintec: “Daeth y PTG â thechnolegau newydd o fewn cyrraedd y cwmni ac rydym wedi gwella ein gallu i ddatblygu atebion pwyso cymhleth ar raddfa fawr..."

“Mae wedi ein helpu i atgyfnerthu ein sefyllfa fel cwmni rhyngwladol ym maes offerynnu diwydiannol, a gwnaeth Swyddog Cyswllt y PTG ymuno â ni o’r Brifysgol i roi dealltwriaeth dechnolegol inni, gan aros gyda’r cwmni mewn swydd lefel uwch â chyfrifoldebau allweddol.”

Jeff Williams Flintec

Disgwylir i’r cydweithrediad dyfu ac mae eisoes yn cysylltu â phrosiectau myfyrwyr ac addysgu. Mae’r Swyddog Cyswllt wedi helpu i ddatblygu’r cwricwlwm myfyrwyr o gylch defnyddio microbroseswyr a dyluniadau electroneg pŵer isel. Cafodd israddedigion gyfle i ddefnyddio galluoedd gweithgynhyrchu datblygedig Flintec ac mae’r bartneriaeth wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD roi eu hymchwil ar waith.

Gallwch bleidleisio tan 11:00 ddydd Mercher 21 Mehefin.

Rhannu’r stori hon

Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2017 y Brifysgol yn amlygu’r partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.