Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr i astudiaeth a ddatgelodd swyddogion tân ‘greddfol’

6 Mehefin 2017

Fire service

Ymchwil yn gwella sut mae swyddogion tân yn delio â digwyddiadau mawr yn ennill gwobr am arloesi.

Defnyddiodd yr astudiaeth gamerâu fideo ar helmedau i ddangos sut deliai swyddogion â sefyllfaoedd brys oedd yn newid yn gyflym.

Arweiniodd at lunio polisi cenedlaethol i newid y ffordd mae swyddogion tân yn delio â digwyddiadau. Mae’r broses rheoli penderfyniadau newydd yn eu helpu i gyfleu nodau, canlyniadau, risgiau a buddion yr hyn a wnânt dan bwysau.

Dan arweiniad Dr Sabrina Cohen-Hatton, Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân, a’r Athro Rob Honey, yr Ysgol Seicoleg, enillodd yr astudiaeth Wobr Arloesi mewn Polisi yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

Datblygodd y cydweithio o ganlyniad i rôl ddeuol Dr Cohen-Hatton fel Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-awdur y Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol ar reoli digwyddiadau.

Comisiynwyd y darn cyntaf o ymchwil gan y rhaglen Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol i edrych ar sut y gwnaed penderfyniadau wrth y gwaith.

“Dangosodd yr astudiaeth fod penderfyniadau’n tueddu i fod yn reddfol neu’n ymatebol, waeth beth fo’r sefyllfa, boed yn un arferol neu’n fwy cymhleth,” meddai Dr Cohen-Hatton.

Bellach yn Ddirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol ym Mrigâd Tân Llundain, cafodd Dr Cohen-Hatton gyllid gan Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân i adeiladu ar yr ymchwil â’r Ysgol Seicoleg.

“Ymchwiliodd y project i ba un a oedd y cydbwysedd rhwng mathau gwahanol o brosesau gwneud penderfyniadau gan Swyddogion Digwyddiadau profiadol yn gallu cael ei addasu drwy hyfforddiant i ddefnyddio rhestr wirio feddyliol gyflym - ‘Rheolaethau Penderfynu’...”

“Mae’n amlygu gwerth gwerthuso nodau a’r canlyniadau a ragwelir, a dadansoddiad risg/budd, ar ôl nodi camau gweithredu posibl.”

Dr Sabrina Cohen-Hatton Mrigâd Tân Llundain

Ychwanegodd yr Athro Honey: “Mae’r ymchwil arloesol hon wedi arwain at wneud newidiadau mawr yn y ffordd y mae swyddogion yn delio â digwyddiadau brys mawr.

“Dangosodd y canfyddiadau fod cyfnod cymharol fyr o hyfforddiant ar nodau wedi cael effaith fawr ar natur y penderfyniadau a wnaed..."

"Mae hyn yn dangos gwir arwyddocâd yr ymchwil, o ystyried bod gan nifer o’r cyfranogwyr flynyddoedd lawer o brofiad mewn rolau uwch.”

Yr Athro Rob Honey Yr Ysgol Seicoleg

Arweiniodd yr ymchwil at ddau bapur a adolygwyd gan gymheiriaid a enillodd wobrau, tair gwobr genedlaethol a rhyngwladol, a newidiadau i ganllawiau gweithredol cenedlaethol y DU a hyfforddi Swyddogion Digwyddiadau. Mae’r rheolaethau penderfynu hefyd yn cynnwys Egwyddorion Rhyngweithredol y Cydwasanaethau Brys, sy’n llywio penderfyniadau i’r holl wasanaethau golau glas mewn digwyddiadau mawr, ac adroddiad Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân yn 2015, The Foundation for Incident Command.

Mae cyllid ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi ymestyn y cydweithio â’r gwasanaethau tân ac achub. Defnyddiwyd dulliau arloesol yr ymchwil i werthuso penderfyniadau rheoli yn ymarfer amlasiantaeth mwyaf erioed y DU - Yr Ymarfer Ymateb Cyfunol - a oedd yn cynnwys model maint llawn o drên a ddaeth oddi ar y traciau a thwnnel wedi cwympo yng Ngorsaf Waterloo.

Mae nifer o wasanaethau tân ac achub hefyd wedi mabwysiadu helmedau â chamerâu arnynt i ategu hyfforddiant a datblygu o ganlyniad i’r adroddiad.

Gallwch bleidleisio tan 11:00 ddydd Mercher 21 Mehefin.

Rhannu’r stori hon

Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2017 y Brifysgol yn amlygu’r partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.