Ewch i’r prif gynnwys

Busnesau newydd ym maes chwaraeon mewn cystadleuaeth UEFA

30 Mai 2017

Principality Stadium

Mae meddalwedd sy'n helpu hyfforddwyr i reoli gemau, dyfais sy'n gwella sgiliau pasio chwaraewyr, ac ap ar gyfer sioeau goleuadau dan arweiniad cefnogwyr ymhlith y syniadau sydd gan 10 busnes bach gwych fydd yn cystadlu mewn Rownd Derfynol Arloesedd Chwaraeon Caerdydd.

Companies will compete in a ‘Dragon’s Den’ style competition in front of an international jury, with senior representatives from UEFA, FC Barcelona, Adidas, Amazon and Microsoft.

Bydd cwmnïau'n cystadlu mewn cystadleuaeth sy'n debyg i 'Dragon's Den' gerbron beirniaid rhyngwladol, gyda chynrychiolwyr uwch o UEFA, FC Barcelona, Adidas, Amazon a Microsoft.

Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys VIKTRE, safle rhwydweithio cymdeithasol ar gyfer tair miliwn o athletwyr a chyn-athletwyr, ac Exerlights – y teclyn cyntaf i reoli hyfforddiant gyda goleuadau LED.

Bydd Globall Coach hefyd yn ymuno â'r her ar 2 Mehefin yng Nghaerdydd. Roedd Globall Coach, a ddefnyddiwyd gan Gymdeithas Pêl Droed Cymru, yn galluogi rheolwr Cymru, Chris Coleman a'i staff i weld cyfarwyddiadau, a chreu animeiddiadau tactegol sy'n chwarae drwy glicio botwm ar sgrîn fawr.

Helpodd y feddalwedd i wella cymhareb ennill y tîm gan 25 y cant, a'u hanfon i'r rownd gyn-derfynol yn UEFA Euro 2016 – ymgyrch fawr gyntaf y tîm ers 58 mlynedd.

Dywedodd Bernd Wahler,  Cyn-Brif Swyddog Marchnata Adidas, Llywydd VfB Stuttgart fydd yn cadeirio'r beirniaid: "Mae ansawdd y busnesau'n rhagorol. Rydym am gynnal celfyddyd y gêm hudol, a chroesawu dyfeisiadau ystyrlon a chyffrous ar yr un pryd. Dyna ddiben y digwyddiad hwn: dangos dyfodol pêl droed i'r byd.”

Mae'r cyflwyniadau eraill yn cynnwys:

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad HYPE, platfform byd-eang ar gyfer cysylltu a buddsoddi mewn arloesedd chwaraeon, ar gyfer y digwyddiad yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion fodern Ysgol Busnes Caerdydd. Cynhelir hacathon cyn y digwyddiad, fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu syniadau eu hunain ar gyfer y gêm gelfydd.

Dywedodd Amir Raveh, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad HYPE: "Rydym wedi cael nifer fawr o fusnesau bach yn gwneud cais sydd â dyfeisiadau gwych, gan gynnwys technoleg wisgadwy, dadansoddeg, ymgysylltu â chefnogwyr, a darlledu. Mae'n ddigwyddiad perffaith i'w fwynhau cyn Gêm Derfynol UEFA Champions League."

Bydd cwmnïau'n cyflwyno ar ddiwrnod Gêm Derfynol Menywod UEFA Champions League rhwng enillwyr llynedd Lyon, a Paris Saint-Germain yn Stadiwm Dinas Caerdydd – y gêm derfynol UEFA gyntaf fydd yn cynnwys timau o Ffrainc yn unig. Yng ngêm y dynion, bydd Juventus yn wynebu enillwyr llynedd, Real Madrid, ar 3 Mehefin, a bydd yr arwr lleol Gareth Bale yn dychwelyd i'w ddinas enedigol.

Gwahoddir y cyfryngau a gwesteion i gadarnhau a fyddant yn bresennol yma.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.