Dŵr daear yn Affrica

30 Mai 2017

african groundwater

Ymchwil newydd yn dangos pwysigrwydd dŵr daear yn Affrica wrth ddechrau edrych ar esblygiad hynafol pobl

Mae tîm rhyngwladol o dan arweiniad ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, o’r farn mai lleoliad pyllau o ddŵr daear a lywiodd symudiad ein hynafiaid ar draws Ddwyrain Affrica.

Mewn astudiaeth newydd, mae’r tîm yn dadlau bod y bobl gynnar ar y ddaear wedi goroesi oherwydd eu bod wedi aros ger y ffynhonnau dŵr hyn wrth iddynt deithio dros diroedd Affrica.

Mae’r tîm o’r farn bod poblogaethau wedi gallu cymysgu â’i gilydd ger y pyllau dŵr hyn, gan ddylanwadu ar amrywiaeth geneteg, ac yn y pendraw, esblygiad y boblogaeth ddynol.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r astudiaeth hon heddiw, 30 Mai, yn nghyfnodolyn Nature Communications.

Credir bod bodau dynol wedi esblygu gyntaf yn Affrica, ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod y bobl gynnar ar y ddaear wedi mudo o’r cyfandir rhwng 2 miliwn ac 1.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn ystod y cyfnod hwn, effeithiwyd ar y glawiad oherwydd y Monsŵn Affricanaidd oedd yn cryfhau ac yn gwanhau yn ôl cylch 23,000 o flynyddoedd oherwydd blaenoriad y cyhydnosau. Yn ystod cyfnodau dwys o sychder, byddai glaw’r monsŵn wedi bod yn ysgafn, a byddai dŵr yfed wedi bod yn brin.

Wrth fapio ffynhonnau parhaus o ddŵr ar draws tiroedd Affrica, mae’r ymchwilwyr wedi gallu modelu sut y byddai ein hynafiaid wedi symud rhwng y ffynhonnau dŵr o bosibl ar wahanol gyfnodau, ac effaith hyn ar eu gallu i deithio’r dirwedd wrth i’r hinsawdd newid.

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Mark Cuthbert, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr: “Gwelsom fod daeareg yn hynod bwysig wrth reoli faint o law sy’n cael ei gadw yn y ddaear yn ystod cyfnodau gwlyb.  Dangosodd y model o’r ffynhonnau dŵr bod llawer ohonynt yn dal i lifo yn ystod cyfnodau sych oherwydd bod y storfa dŵr daear yn gweithredu fel clustog yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

“Gallwn ddechrau gweld felly bod daeareg, ac nid yr hinsawdd yn unig, yn rheoli argaeledd y dŵr ac roedd y dirwedd yn gatalydd ar gyfer newid yn Affrica.”

Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Matthew Bennett o Brifysgol Bournemouth: “Rydym yn gweld sut mae pobl wedi symud ar draws rhannau helaeth o dir. Gallwch felly feddwl am y ffynhonnau dŵr fel gorsafoedd gwasanaeth neu seibiau ar hyd y ffordd, lle cafodd pobl eu tynnu iddynt ar gyfer cael eu ffynonellau dŵr hanfodol.

“Drwy fapio hyn, fe wnaethom ddarganfod y llwybrau posibl a gerddwyd gan ein hynafiaid. Maent fel priffyrdd, yn mynd â phobl o un ffynhonnell dŵr i'r nesaf. "Dyma arwydd hanfodol arall i ddeall sut roedd y bobl hyn yn mudo ar draws cyfandir Affrica, o ffynhonnell ddŵr i ffynhonnell ddŵr a sut y gallai hyn fod wedi effeithio ar lif a chymysgu genynnau."

Dywedodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Mae dŵr daear yn darparu dŵr yfed i bron draean o boblogaeth y byd ar hyn o bryd. Defnyddir dŵr hefyd i gynhyrchu’r gyfran fwyaf o gyflenwad bwyd y byd ac mae’n elfen hanfodol o’n cyfalaf naturiol. Ond yn ôl yr ymchwil hon, gallai hefyd fod wedi dylanwadu ar ein hesblygiad”.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan dîm cydweithredol o academyddion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham, Coleg Prifysgol Llundain, UNSW Awstralia, Prifysgol Bournemouth, Prifysgol Rutgers (UDA) a Phrifysgol Victoria (Canada).