Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithas y Sbaenigwyr yn cael eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer eu cynhadledd flynyddol

23 Mai 2017

Detholiad o luniau a dynnwyd yn ystod Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Sbaenigwyr Prydain Fawr ac Iwerddon (AHGBI).
Detholiad o luniau a dynnwyd yn ystod Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Sbaenigwyr Prydain Fawr ac Iwerddon (AHGBI).

Caerdydd oedd dinas letyol Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Sbaenigwyr Prydain Fawr ac Iwerddon (AHGBI) eleni

Mae Ieithoedd Modern wedi cael eu haddysgu yng Nghaerdydd ers dechreuadau’r Brifysgol yn 1883, ond hwn oedd y tro cyntaf yn hanes 62 mlynedd y Gymdeithas i’r gynhadledd dri diwrnod gael ei chynnal yng Nghymru.

Yr AHGBI yw un o'r cymdeithasau pwnc hynaf a mwyaf yn Ewrop o ran Ieithoedd Modern, ac mae’r corff o aelodau’n rhyw 400 o Sbaenigwyr. Mae'r Gymdeithas yn hyrwyddo astudio ieithoedd Penrhyn Iberia (Sbaeneg, Portiwgaleg, Catalaneg, Basgeg a Galiseg), a’r diwylliannau hynny sy'n gysylltiedig â hwy ledled y byd, ac yn annog ymchwil ysgolheigaidd ar bob agwedd ar yr ieithoedd a’r diwylliannau hyn. Mae eu cynhadledd flynyddol, a gynhaliwyd ar 10-12 Ebrill, yn offeryn allweddol wrth gyflawni'r nod hwn.

Roedd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ar gyfer y 100 o gynrychiolwyr oedd yn bresennol gan gynnwys 87 o bapurau ymchwil, dwy brif araith, a thrafodaeth cyfarfod llawn.

Dr Manuel Barrero o Seville, sy’n arbenigo mewn llyfrau comig Sbaeneg, roddodd y ddarlith sesiwn lawn ddydd Llun.  Bu Dr Barrero yn trafod y sefyllfa o ran astudiaethau llyfrau comig yn Sbaen, maes ymholi academaidd sydd ar gynnydd ac sydd â phresenoldeb sefydliadol cryf yng Nghaerdydd trwy Gasgliad unigryw Santander Astudiaethau Sbaenaidd a Llenyddiaeth Graffig (SanCoGraL) a sefydlwyd yn 2011 gan uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, Dr Tilmann Altenberg. Bu'r Dr Altenberg (ar y chwith uchaf yn y llun) a’i gydweithiwr, Dr Ryan Prout yn arddangos eu gwaith ymchwil ar lyfrau comig yn ystod y gynhadledd, a chyflwynodd Dr Altenberg ganfyddiadau o’i brosiect sy’n parhau ar sut mae Rhyfel y Falklands yn cael ei gynrychioli yn niwylliant yr Ariannin.

Rhoddwyd darlith sesiwn lawn dydd Mawrth gan yr Athro David William Foster o Brifysgol Talaith Arizona (ar y dde uchaf yn y llun), UDA, a gyflwynodd ei waith arloesol diweddar ar ffotograffiaeth Chicano trefol. Bu’r Athro Foster yn trafod enghreifftiau o'r cofnod ffotograffig o fywyd beunyddiol Americanwyr o dras Mecsicanaidd yn Los Angeles, cofnod sydd heb fod yn destun sylw digonol nac yn adnabyddus. Daeth y digwyddiad i ben ddydd Mercher gyda phanel sesiwn lawn blaengar ar Anabledd yn Niwyliant a Chymdeithas Sbaen ac America Ladin gyda’r Athro Beth Jörgensen, Prifysgol Rochester, UDA, yr Athro Susan Antebi, Prifysgol Toronto, Canada, a’r Athro Susanne Hartwig, Prifysgol Passau, yr Almaen. Datgelodd y papurau a’r drafodaeth fywiog fod gan Astudiaethau Anabledd botensial, sydd heb ei ddefnyddio eto i raddau helaeth, i newid ein canfyddiad o realiti a gwella bywydau pobl.

Yn ystod y gynhadledd hefyd lansiwyd cyfrol ddiweddaraf Gwasg Prifysgol Cymru yn y gyfres Astudiaethau Iberaidd ac America Ladin, The Enlightenment in Iberia and Ibero-America gan arbenigwr o fri yn hanes gwleidyddol a diwylliannol Mecsico a Sbaen yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr Athro Brian Hamnett o Brifysgol Essex (yn y gwaelod ar y dde yn y llun).

Noddwyd cynhadledd eleni ar y cyd gan Lysgenhadaeth Sbaen, a gynrychiolwyd gan y Cynghorydd Addysg Dr Gonzalo Capellán de Miguel (yn y canol ar y gwaelod yn y llun). Yn ddiweddar daeth yr Ysgol Ieithoedd Modern i gytundeb â Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen yn y Deyrnas Unedig (Consejería de Educación) a Llywodraeth Cymru, i gydweithio mewn gweithgareddau i hyrwyddo astudio Sbaeneg yng Nghymru.

Ar ôl y digwyddiad dywedodd Dr Altenberg: "Roedd awyrgylch adeiladol a lefel uchel cynnwys deallusol y gynhadledd yn ddathliad o'r byd academaidd ar ei orau. Crëwyd argraff ar y cynrychiolwyr gan y trefniadau di-fai a’r croeso cynnes a gawsant gan Brifysgol Caerdydd." Capsiwn ar gyfer y ffotograff - Detholiad o luniau a dynnwyd yn ystod Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Sbaenigwyr Prydain Fawr ac Iwerddon (AHGBI).

Rhannu’r stori hon