Ewch i’r prif gynnwys

Hwb ariannol i brosiect mentora iaith

16 Mai 2017

Welcome in a number of languages

Mae prosiect i godi proffil ieithoedd tramor modern wedi derbyn arian estynedig gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd disgyblion mewn mannau gwledig yng Nghymru.

Lansiwyd y Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn 2015, ac mae'n gosod israddedigion o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol i fentora disgyblion a'u hannog i ystyried ieithoedd tramor modern wrth ddewis eu hopsiynau TGAU.

Cyllidir y prosiect mentora gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o'i chynllun Dyfodol Byd-eang sy'n ceisio gwella a hybu dewis ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r cynllun mentora wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion partner sydd wedi nodi cynnydd yn y nifer o ddisgyblion sy'n dewis ieithoedd ar lefel TGAU yn ogystal â gwell symbyliad i barhau i ddysgu ieithoedd ac ystyried cwrs prifysgol.

Llwyfan digidol newydd

Gan fanteisio ar lwyddiant y prosiect, mae Llywodraeth Cymru bellach yn ehangu'r prosiect i gynnwys llwyfan digidol newydd fydd yn estyn ei gyrhaeddiad i ysgolion a disgyblion nad ydynt wedi gallu ymgysylltu â'r prosiect oherwydd lleoliad daearyddol. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i’r cynllun, sy'n caniatáu i fyfyrwyr mewn ardaloedd anghysbell neu wledig gysylltu'n ddigidol gyda mentoriaid o blith myfyrwyr. Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £140,000 arall yn nhrydedd flwyddyn y prosiect.

Cyfarfu Penaethiaid Ysgolion Ieithoedd Modern y pedair prifysgol partner yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, i drafod datblygiadau newydd a sut y gellid integreiddio dysgu ieithoedd tramor modern ymhellach yng nghwricwlwm yr ysgol.

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Rwyf i'n falch i ymestyn y cyllid ar gyfer y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern, yn sgil ei lwyddiant a'i gyfraniad at ein nod o gynyddu'r nifer o bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern...”

“Ein huchelgais i bob dysgwr yng Nghymru yw astudio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith dramor fodern yn yr ysgol gynradd.”

Kirsty Williams AC Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

“Ar hyn o bryd rydym wrthi’n creu cwricwlwm cyffrous newydd i Gymru ac rwyf i wrth fy modd fod y prifysgolion yn awyddus i weithio gyda ni i ystyried sut y gellir integreiddio ieithoedd tramor modern ymhellach yn y cwricwlwm.”

“Sylfaeni dysgu iaith”

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, arweinydd academaidd y prosiect mentora ac Athro Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym ni wrth ein bodd yn ymestyn cyrhaeddiad y cynllun mentora myfyrwyr drwy'r llwyfan digidol newydd. Ein gobaith yw cysylltu drwy'r llwyfan â charfannau newydd o ddisgyblion fydd bellach yn cael yr un cyfleoedd ag y mae eu cymheiriaid mewn ysgolion eraill wedi'u profi dros y ddwy flynedd ddiwethaf...”

“Roedd fy nghydweithwyr o'r prifysgolion partner a fi wedi'n calonogi'n fawr ar ôl siarad gyda Kirsty Williams am y ffyrdd mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu integreiddio ieithoedd i'r cwricwlwm newydd ar draws Cymru.”

Yr Athro Claire Gorrara Dean for Research and Innovation for the College of Arts, Humanities and Social Sciences, Professor of French Studies

“Mae cyflwyno plant i sylfaeni dysgu iaith ar oedran cynnar yn hanfodol ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth well o ddiwylliannau a chymdeithasau eraill ac wrth i Gymru a'r DU agosáu at y trafodaethau ynghylch gadael yr UE mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer dyfodol Cymru.”

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.