Ewch i’r prif gynnwys

Trawsblannu celloedd yn y clefyd Huntington

16 Mai 2017

Professor William Gray performing procedure with Neuromate

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch i gyhoedd cynlluniau i gynnal trawsblaniad bôn-gelloedd a allai fod o fudd i bobl a effeithir gan Glefyd Huntington yng Nghymru.

Dechreuodd Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) Wythnos Ymwybyddiaeth Clefyd Huntingdon (15-21 Mai) drwy gyhoeddi ei bwriad i gynnal y gyntaf o'i gweithdrefnau arloesol erbyn diwedd eleni.

Nod y llawdriniaeth yw defnyddio technolegau uwch i ddarparu bôn-gelloedd i gleifion sy'n byw gyda Chlefyd Huntington - anhwylder niwroddirywiol etifeddol sy'n ymosod ar y system nerfol ganolog - yn y gobaith o arafu datblygiad y symptomau.

Yn wahanol i unrhyw anhwylder niwroddirywiol arall, caiff Clefyd Huntington ei achosi gan un genyn diffygiol. Ar hyn o bryd nid oes modd ei wella ac mae'n effeithio ar bopeth o symudiad unigolion i'w teimladau a'u prosesau meddwl.

Dyfarnwyd Cronfa Bontio Gwyddorau Bywyd i'r Athro Niwrowyddoniaeth Ymarferol yn Uned (BRAIN) William Gray i gynnal y weithdrefn newydd – a fydd yn asesu effeithiolrwydd system gyflenwi newydd ar gyfer trawsblannu bôn-gelloedd - mewn tri chlaf sydd â Chlefyd Huntington erbyn mis Mawrth 2018. Bydd y system ddarparu'n seiliedig ar y dechnoleg darparu cyffuriau a ddatblygwyd gan Renishaw plc.

Professor William Gray with neuromate

Dyma fydd yr ail dro i'r Brifysgol gydweithio gyda Renishaw, y cwmni peirianneg a thechnoleg wyddonol sy'n arwain y byd, a galluogodd eu technoleg neuromate® hefyd i’r Athro Gray i berfformio'r niwrolawdriniaeth epilepsi gyntaf erioed gyda chymorth robot yng Nghymru yn gynharach eleni.

Y gobaith yw y bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn gam ymlaen ar lwybr y Brifysgol i ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu a chyflenwi therapïau newydd i atgyweirio'r ymennydd mewn clefydau niwroddirywiol.

“Mae'r weithdrefn yn nodi'r cam nesaf yn ein hymdrech i frwydro effeithiau gwanychol yr anhwylder hwn, nad oes modd ei wella ar hyn o bryd,” dywedodd yr Athro Gray.

“Er na fydd efallai'n bosibl mesur llwyddiant y llawdriniaeth yn glir am fwy na blwyddyn ar ôl trawsblannu, rydym ni'n gobeithio y gallai'r weithdrefn wneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad tymor hir therapïau ar gyfer miloedd o bobl sy'n byw gyda chlefyd Huntington.”

Yr Athro William Gray Professor of Functional Neurosurgery, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Dywedodd Jon Bisson, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rwyf i wrth fy modd yn gweld BRAIN yn chwarae rhan mor hanfodol yn dod â therapïau newydd i ymarfer clinigol. Mae'r uned hon yn un o nifer o ganolfannau ac unedau ymchwil yng Nghymru a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl Cymru.”

Ychwanegodd Paul Skinner, Rheolwr Cyffredinol Cynhyrchion Niwrolegol Renishaw: “Rydym ni'n falch fod arbenigedd Renishaw mewn peirianneg yn parhau i gefnogi ymchwil arloesol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n gyffrous cael bod yn rhan o brosiect cydweithredol sy'n gweld peiriannu manwl ac ymarfer llawfeddygol arloesol yn gweithio mewn synergedd i wella canlyniadau i gleifion.”

Rhannu’r stori hon

Mae datblygiadau mewn ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn golygu ein bod cam yn agosach at ddatrys y dirgelion tu ôl i anhwylderau seiciatrig a niwoddirywiol.