Ewch i’r prif gynnwys

Tinted Lens

15 Mai 2017

Colourful MRI scan of a brain

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â Chanolfan Gelfyddydau’r Chapter a Chanolfan Ffilm Cymru i gynnal diwrnod o ffilmiau a gweithgareddau sy’n addas i bobl â demensia ddydd Mercher 17 Mai.

Bydd ‘Tinted Lens: A Festival of the Mind, Memory and Ageing’ yn cynnwys sawl ffilm, gweithdai, profiad rhith-wirionedd wedi’i ddylunio i’ch rhoi yn sgidiau rhywun sy’n byw â demensia, bwth ffotograffau, siaradwyr gwadd, perfformiadau gan Gwmni Theatr Everyman a Re:Live, sesiynau gwybodaeth, stondinau a llawer mwy.

Awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.

Bydd y ffilmiau sy’n addas i bobl â demensia yn cynnwys Their Finest (10.30am), Calamity Jane: Singalong (2pm) a Mad to be Normal (7.30pm). Bydd pob un yn cael ei dangos heb hysbysebion a gyda goleuadau ychydig yn fwy llachar yn yr awditoriwm i alluogi pobl sy’n byw gyda demensia i fwynhau ffilm mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.

Mae’r ffilm Forget Me Not: The Documentary (6pm) - ffilm fer am y Forget Me Not Chorus sy’n cynnig sesiynau canu wythnosol i oresgyn yr unigrwydd a’r arwahanrwydd a achosir gan ddemensia - yn cael ei dangos am y tro cyntaf hefyd. Bydd y Forget-Me-Nots yn perfformio’n fyw yng Nghyntedd y Sinema cyn y digwyddiad (5.30pm) a bydd Only Men Aloud, côr llwyddiannus o Gymru a ddewisodd Gymdeithas Alzheimer Cymru fel eu helusen y flwyddyn yn ddiweddar, yn ymuno â nhw.

Meddai Katie Featherstone, Darllenydd o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n arwain cyfraniad y Brifysgol at y digwyddiad: “Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar wella ansawdd gofal i bobl â demensia, a rhan bwysig o’r gwaith hwnnw yw cydweithio â gofalwyr a phobl sy’n dioddef o ddemensia i sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu eu hanghenion ac yn goresgyn yr allgáu cymdeithasol a’r unigrwydd a brofir ganddynt...”

“Mae’r ŵyl hon yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i herio allgáu cymdeithasol ac ehangu mynediad i’r celfyddydau.”

Ychwanegodd Ellie Russell, Swyddog Prosiect Demensia Chapter: “Dwi mor gyffrous o gael gweithio gyda chynifer o bartneriaid gwych ar y diwrnod hwn, ac i gael y cyfle i chwalu rhai o’r rhwystrau sy’n atal pobl â demensia rhag byw bywydau llawn a chyfoethog... ”

“Dwi o’r farn y dylai’r sinema fod ar agor i bawb ac y gall hyrwyddo cynhwysiant a chofleidio amrywiaeth gyfoethogi bywydau pawb yn ein cymdeithas.”

Ellie Russell Swyddog Prosiect Demensia Chapter

“Dwi wedi gweld yr unigrwydd y gall demensia ei achosi, ar gyfer y person sy’n byw gyda demensia, ei deulu a’i ffrindiau, a dwi’n gobeithio y bydd y diwrnod hwn nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o ddemensia ond hefyd yn cynnig amgylchedd hamddenol, cefnogol a chynhwysol i bobl ddod ynghyd a mwynhau ffilmiau a gweithgareddau gwych.”

I gael rhagor o wybodaeth ac amserlen lawn ewch i www.chapter.org.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.