Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd ymysg y 40 o brifysgolion mwyaf arloesol yn Ewrop

8 Mai 2017

Mae Prifysgol Caerdydd wedi symud i fyny naw o leoedd i safle 36 yn y 100 o Brifysgolion Mwyaf Arloesol yn Ewrop.

Mae'r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn yr 8fed safle yn y DU, yn ôl ail restr flynyddol Reuters.

Mae rhestr Reuters yn nodi'r sefydliadau addysg sy'n gwneud y mwyaf i hybu gwyddoniaeth, dyfeisio technolegau newydd, a helpu i ysgogi'r economi fyd-eang.

Mae'r gynghrair yn seiliedig ar ddata gan gynnwys papurau academaidd, ceisiadau patent, dyfyniadau diwydiannol a chydweithio diwydiannol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Arloesedd yn elfen ganolog o'n strategaeth, fel y mae ein buddsoddiad £300m yn ein Campws Arloesedd yn dangos. Rydym yn parhau i ddatblygu partneriaethau â byd diwydiant, cynhyrchu cwmnïau deillio, meithrin menter yn y byd academaidd, a chefnogi busnesau bach myfyrwyr."

"Ni yw'r unig Brifysgol yng Nghymru ar y rhestr, ac rydym yn dal ein tir yn erbyn sefydliadau technegol mawr y DU megis Caeredin, sydd dim ond dau safle o'n blaen."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Mae data diweddar gan Arolwg Rhyngweithio Addysg Uwch-Busnes a'r Gymuned (HE-BCI) yn cadarnhau canfyddiadau Reuters.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau cynnydd o £13.3m yn ei chyllid ar gyfer ymchwil gydweithredol – y cynnydd mwyaf yn y DU.

Erbyn hyn, Caerdydd yw'r 2il yng Ngrŵp Russell o ran incwm eiddo deallusol – sef 98% o'r incwm eiddo deallusol ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru.

Mae Rhestr Reuters o'r 100 o Brifysgolion Mwyaf Arloesol yn cynnwys prifysgolion a cholegau technegol yn bennaf.

KU Leuven, prifysgol Iseldireg o ardal Ffladrys yng ngwlad Belg, yw prifysgol fwyaf arloesol Ewrop. Mae cysylltiad agos iawn rhwng y Brifysgol honno a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i gynyddu incwm ymchwil, yn cydweithio ar waith ymchwil, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff astudio ac addysgu dramor.

Coleg Imperial Llundain yw'r ail yn y tabl. Ar y cyfan, mae tua 17 o sefydliadau'r DU ar y rhestr, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.