Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ar-lein ar gyfer plant mewn gofal

4 Mai 2017

The stigma of being looked after graphics

Mae Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i lansio canolfan ar-lein i rannu gwybodaeth ac adnoddau sy'n canolbwyntio ar blant mewn gofal a'u haddysg.

Mae ExChange:  Gofal ac Addysg yn ganolfan ddwyieithog rad ac am ddim ar-lein a fydd yn canolbwyntio ar blant a phobl â phrofiad o fod mewn gofal a'u haddysg. Bydd yn adnodd ar gyfer athrawon, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr.

Bydd y ganolfan, a ddatblygwyd gan rwydwaith Cymru gyfan a sefydlwyd gan CASCADE, canolfan ymchwil gymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys adnoddau o feysydd ymarfer ac ymchwil, gan gynnwys crynodebau a gwerthusiadau clir, ffyrdd ymarferol o ddatblygu, addasu a gwella adnoddau, cysylltiadau defnyddiol rhwng gwahanol ddulliau, ynghyd â blogiau diddorol, arbenigedd ynglŷn ag ymarfer a thystiolaeth ymchwil.

Posters on looked after children

Mae Exchange yn seiliedig ar yr egwyddor y gall ymarfer gorau ddatblygu pan mae profiad ac arbenigedd yn cael eu rhannu a chydweithio’n cael ei annog. Bydd y deunyddiau ar y safle ar gael yn rhad ac am ddim, a'r gobaith yw y byddant yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £27,000 mewn cyllid i sefydlu'r prosiect.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal a darpariaeth gyfartal, fel y gall plant a phobl ifanc gael cefnogaeth i gyflawni eu potensial, beth bynnag eu cefndir neu amgylchiadau personol...

“Rwy'n falch iawn ein bod wedi cydweithio â CASCADE – Prifysgol Caerdydd i ddatblygu'r gymuned ymarfer ar-lein hon, lle bydd gan bawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal adnodd penodol i gael gwybodaeth ynglŷn â gwella canlyniadau.”

Kirsty Williams AC Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dywedodd Dr Dawn Mannay, o Brifysgol Caerdydd: Mae ein hymchwil yn CASCADE wedi tynnu sylw at y ffaith bod llawer i'w wneud i wella profiadau addysgol a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal...

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o greu canolfan ExChange: Gofal ac Addysg, fydd yn diwallu'r angen mawr am gyfleoedd i rannu deunyddiau, hyrwyddo arferion gorau, a chydweithio i effeithio ar ganlyniadau cadarnhaol.”

Dr Dawn Mannay Lecturer in Social Sciences (Psychology)

Bydd canolfan ExChange:  Gofal ac Addysg yn cael ei lansio mewn digwyddiadau ym Mhrifysgol Caerdydd a Phorth Eirias, Bae Colwyn.

Cewch ragor o wybodaeth am y ganolfan yn www.exchangewales.org/hafan.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.