Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn gwobrwyo creadigrwydd

10 Tachwedd 2014

Eleni mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn lansio ysgoloriaethau newydd a fydd yn gofyn i ddarpar fyfyrwyr arddangos eu creadigrwydd. Bydd pum Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol gwerth £3,000 yr un ar gael i ymgeiswyr am radd (sengl neu gydanrhydedd) yn y Gymraeg. Er mwyn cael y cyfle i ennill un o'r ysgoloriaethau gofynnir i ymgeiswyr lunio cais creadigol sy'n ateb y cwestiynau a ganlyn:

  • Pam yr ydych chi am astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd?
  • Beth sy'n eich gwneud chi'n ymgeisydd arbennig?
  • Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?

Gellir anfon y cais ar unrhyw ffurf  e.e. fideo, podcast, poster, cân, cyflwyniad PowerPoint, traethawd, neu gerdd. Creadigrwydd y cais fydd y maen prawf allweddol  wrth ddewis enillwyr. Dyma gyfle gwych i ymgeiswyr gyfleu eu personoliaethau a mynegi eu syniadau  mewn ffyrdd gwreiddiol ac arloesol.

Dywed yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: "Rydym fel Ysgol am annog ein darpar fyfyrwyr i arddangos eu doniau fel unigolion yn ogystal â'u gallu academaidd. Mae'r cwrs BA yn y Gymraeg yng Nghaerdydd yn un heriol a chyffrous, sy'n cyfuno elfennau traddodiadol a chyfoes gan baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith yn y Gymru fodern."

Meddai Dr Rhiannon Marks, Swyddog Derbyn Ysgol y Gymraeg: "Dyma'r tro cyntaf inni fel Ysgol gynnig ysgoloriaeth o'r fath ac yn sicr mae'r wobr ariannol yn sylweddol uwch nag a fu yn y gorffennol. Mae hon yn gystadleuaeth unigryw sy'n gwbl wahanol i ysgoloriaethau eraill sydd ar gael drwy Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn amrywiaeth o geisiadau disglair a fydd yn adlewyrchu doniau a phersonoliaethau ein darpar fyfyrwyr.."

Ysgoloriaethau eraill sydd ar gael yn 2015:
Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://www.caerdydd.ac.uk/cymraeg/degreeprogrammes/undergraduate/admissions/scholarships/index.html

Rhannu’r stori hon