Ewch i’r prif gynnwys

Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia: gwledd o wylio ar YouTube

24 Ebrill 2017

Yn 2015 dathlwyd carreg filltir fawr yn hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, sef 150 mlwyddiant ei sefydlu yn 1865. I nodi hyn, cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol ar hanes a sefyllfa gyfoes y Wladfa ym Mhrifysgol Caerdydd ar 6–7 Gorffennaf 2015.

Cafwyd papurau ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys agweddau ieithyddol, llenyddol, addysgol, daearyddol a chymdeithasegol.

Un o’r pethau nodedig am y gynhadledd hon oedd bod tua hanner y siaradwyr wedi eu geni a’u magu yn Ariannin. Dyma’r tro cyntaf i gynifer o arbenigwyr o Gymru ac Ariannin ddod ynghyd i drafod y Wladfa, a bu’n gyfle gwych i gael golwg ar y Wladfa, ddoe, heddiw ac yfory, trwy lygaid pobl o ddwy ochr Môr Iwerydd.

Bellach mae papurau’r gynhadledd – 14 ohonynt – ar gael ar sianel YouTube Prifysgol Caerdydd.

Traddodwyd rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg, ynghyd ag un yn Sbaeneg. Dyma restr ohonynt yn ôl enwau’r siaradwyr, yn nhrefn yr wyddor:

  • Eirionedd Baskerville: Richard Jones Berwyn: gŵr amryddawn, bonheddig a chymwynasgar
  • Walter Ariel Brooks: Y Drafod: prif bapur newydd Cymraeg y Wladfa, 1891–2015
  • David Leslie Davies: ‘Holl daith yr anialwch i gyd’: profiad y Gwladfãwyr cynharaf
  • E. Wyn James: Eluned Morgan a Diwygiad 1905
  • Bill Jones: Cymru, Patagonia ac ymfudo
  • Vilma Nanci Jones: Galés patagónico: estampas de una biografía casi sesquicentenaria
  • Nadine Laporte: Gamechangers: the women who made Y Wladfa possible
  • Esyllt Nest Roberts de Lewis: Cyfrolau’n siarad: dirgelion llyfrgell Coleg Camwy, Y Gaiman
  • Llŷr Gwyn Lewis: Darllen y map: ysgrifennu creadigol yn y Wladfa
  • Geraldine Lublin: ‘Wi, wi, am Ŵyl y Glaniad’: y gymuned Gymreig yn Chubut a dathliad yr 28ain o Orffennaf
  • Elvey MacDonald: ‘Ffarwél i ddociau Lerpwl’
  • David Williams: Non-Welsh immigration into the Welsh Settlement in Patagonia during the first nine years of its history (1865–74)
  • Fernando Williams: An agricultural oasis in Patagonia: cultural and political implications of the irrigation network built by the Welsh in the Chubut Valley
  • Guillermo Williams: Representations of the Welsh Settlement and its cultural heritage in Chubut’s educational and historical literature

Bydd y papurau hyn o ddiddordeb arbennig i’r sawl sy’n ymddiddori mewn materion yn ymwneud â Chymru ac Ariannin, ond byddant o ddiddordeb ehangach hefyd. Roedd sefydlu’r Wladfa yn antur arwrol ac iddi arwyddocâd rhyngwladol yn ogystal â chenedlaethol, ac mae hanes a datblygiad y Wladfa yn codi pob math o gwestiynau diddorol a pherthnasol ynghylch hunaniaeth ac ymfudo yn gyffredinol.

Trefnwyd y gynhadledd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America (sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd) mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru-Ariannin ac Adrannau Diwylliant y 18fed a’r 19eg Ganrif ac Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Derbyniwyd cymorth hael hefyd gan Brifysgolion Santander.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.