Ewch i’r prif gynnwys

Agor Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Seiber-ddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd

24 Ebrill 2017

Computer code

Lansiwyd canolfan ymchwil newydd heddiw gan Brifysgol Caerdydd ac Airbus er mwyn gwneud ymchwil blaenllaw i'r broblem gynyddol o seiber-ddiogelwch.

Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd fydd cartref y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch, a hon fydd y ganolfan gyntaf o'i math yn Ewrop.

Gydag arbenigwyr o Airbus, bydd ymchwilwyr yn gwneud astudiaethau blaenllaw i ddysgu peirianyddol, dadansoddi data, a deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod ymosodiadau seiber. Nod yr ymchwil fydd diogelu rhwydweithiau TG corfforaethol, eiddo deallusol a rhwydweithiau mewnol cenedlaethol hanfodol.

Mewn ymgais i lenwi'r bwlch sgiliau yn y maes ar hyn o bryd, bydd y bartneriaeth hefyd yn datblygu rhaglenni academaidd sy'n berthnasol i ddiwydiant a'r Brifysgol.

Bydd y cytundeb hefyd yn cefnogi Airbus a Phrifysgol Caerdydd a'u hannog i rannu gwybodaeth, gyda'r potensial i gynnig secondiadau a lleoliadau gwaith diwydiannol ar gyfer ymchwilwyr a myfyrwyr.

Dywedodd Dr Pete Burnap, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch, Prifysgol Caerdydd: “Diben dadansoddi seiber-ddiogelwch yw gwrthsefyll ymosodiadau seiber yn well drwy greu modeli data er mwyn canfod ymddygiad maleisus a'i atal cyn iddo achosi niwed mawr. Yn ogystal, bydd yn deall beth sy'n ysgogi'r ymddygiad hwn, beth yw ei effaith bosibl, a sut i rybuddio am ddiogelwch ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau...”

“Canolfan ryngddisgyblaethol yw hon a fydd yn dod ag arbenigwyr mewn seiber-ddiogelwch o'r Brifysgol i gyd ynghyd.”

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Dywedodd Dr Kevin Jones, Pennaeth Arloesedd Seiber-ddiogelwch yn Airbus: “Mae cydweithio â Phrifysgolion blaenllaw fel Prifysgol Caerdydd i wneud gwaith ymchwil, datblygu dysgu peirianyddol a dadansoddi data er mwyn canfod ymosodiadau seiber yn ddull allweddol wrth ddiogelu systemau hanfodol yn y dyfodol...”

“Mae lansio'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch yn fodd o droi ymchwil yn weithred yn gyflym. Mae hyn yn sicrhau bod ymchwilwyr yn gallu cael mynediad at y technegau a'r data diweddaraf, ac yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr o Airbus hefyd.”

Dr Kevin Jones Pennaeth Arloesedd Seiber-ddiogelwch yn Airbus

Ochr yn ochr â lansio'r Ganolfan Ragoriaeth, yn ddiweddar mae Prifysgol Caerdydd wedi cael bron £2m o gyllid ymchwil allanol er mwyn lansio rhaglenni newydd dros y 3 blynedd nesaf. Nod hyn yw datblygu algorithmau dysgu peirianyddol arloesol er mwyn canfod bygythiadau seiber sy'n targedu gwahanol sefyllfaoedd ar y rhyngrwyd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasau ar-lein. Bydd hyn yn rheoli'r systemau ar rwydweithiau mewnol hanfodol.

Mae Prifysgol Caerdydd ac Airbus ar y cyd wedi cael dros £1m o gyllid ar gyfer seiber-ddiogelwch, gan gynnwys arian i edrych ar y risgiau i'r systemau sy'n sail i rwydweithiau mewnol hanfodol. Cafodd hyn ei ariannu'n rhannol gan y rhaglen Ymdrechu sy'n cael ei chefnogi gan Airbus a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn enghraifft wych o sut y mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn cysylltu â busnesau blaenllaw yn y byd i sicrhau dyfodol gwell i Gymru a'r byd...”

“Mae ymchwil i seiber-ddiogelwch yn hollbwysig yn ein cymdeithasol ddigidol felly mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n chwilio am atebion arloesol perthnasol er mwyn canfod ymosodiadau seiber peryglus a diogelu systemau rhagddynt.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.