Ewch i’r prif gynnwys

Gofal Dydd y Brifysgol yn cyrraedd carreg filltir

20 Ebrill 2017

Child's hand covered in paint

Mae babanod ac oedolion yn cael eu gwahodd i ddathlu pen-blwydd Canolfan Gofal Dydd Prifysgol Caerdydd.

Ar 10 Mehefin 2017, bydd y Ganolfan Gofal Dydd yn 40 oed a chynhelir parti awyr agored ar gyfer rhieni, eu plant, teuluoedd a ffrindiau sydd wedi defnyddio’r Ganolfan dros y blynyddoedd.

O'r camau a’r geiriau cyntaf

Ers ei sefydlu ym 1977, mae'r Ganolfan wedi gofalu am filoedd o fabanod a phlant bach y staff, y myfyrwyr a’r cyhoedd.

O'r camau a’r geiriau cyntaf, mae’r Ganolfan Gofal Dydd yn cynnig amgylchedd hapus a diogel lle gall babanod a phlant rhwng 10 wythnos a 5 oed dyfu a datblygu.

Meddai Jacqui Kempa, Rheolwr y Ganolfan Gofal Dydd: “Rwyf wedi bod yn gweithio yn Ganolfan yma ers 22 mlynedd ac wedi cael y fraint o wylio’r plant o dan ein gofal yn tyfu. Gweld effaith ein gofal a’n hamgylchedd ar eu bywydau cynnar yw un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil o’r swydd hon…”

“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn gyfle i ni ddathlu gyda’r teuluoedd sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth. Yn ogystal â’r holl deuluoedd sy’n ein defnyddio ar hyn o bryd, byddai’n hyfryd croesawu rhieni a’n cyn-fabanod a allai fod yn blant, yn bobl ifanc neu’n oedolion erbyn hyn, a hyd yn oed gyda’u teuluoedd eu hunain.”

Jacqui Kempa Rheolwr y Ganolfan Gofal Dydd

“Bydd digonedd o hwyl i bawb o bob oed, felly dewch draw ar bob cyfrif.”

Cynhelir y parti awyr agored ddydd Sadwrn 10 Mehefin rhwng 11 a 3 o’r gloch yn y Ganolfan Gofal Dydd ym Mhlas y Parc. Mae’r digwyddiadau sy’n cael eu paratoi ar y diwrnod yn cynnwys cystadleuaeth coginio, barbeciw a llu o weithgareddau y gall plant ac oedolion eu mwynhau.

Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw - dewch draw ar y diwrnod.

Rhannu’r stori hon

Llwythwch a chwblhewch ein ffurflen i wneud cais am le yn y Feithrinfa.