Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolheigion Marshall yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd

21 Ebrill 2017

In Main Building doorway looking up

Mae 50 o ysgolheigion mwyaf galluog UDA wedi ymweld â ni i ddysgu am ddiwylliant cyfoes Cymru a rôl Prifysgol Caerdydd.

Roedd yr ymwelwyr i gyd yn cymryd rhan yn rhaglen Ysgoloriaeth Marshall, sy’n galluogi ysgolheigion mwyaf galluog UDA i astudio ar gyfer gradd yn y DU. Nod y rhaglen yw cynnig dealltwriaeth i’r myfyrwyr o Brydain gyfoes a gwella cysylltiadau rhwng arweinwyr y ddwy genedl yn y dyfodol. Llofnododd y Brifysgol gytundeb gyda Sefydliad Marshall yn 2006, gan gytuno i hepgor ffioedd dysgu un Ysgolhaig Marshall bob blwyddyn.

Yn rhan o amserlen ehangach a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad i’r iaith Gymraeg gan yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, a sesiwn gan Dr Richard Clarkson, Uwch-ddarlithydd yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd.

Meddai’r Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop: “Pleser o’r mwyaf oedd croesawu rhai o fyfyrwyr mwyaf galluog UDA..."

“Roedd y digwyddiad yn cynrychioli’r Brifysgol yn berffaith: yn falch iawn o’i diwylliant Cymreig a bob amser am ehangu gorwelion rhyngwladol.”

Clywodd y gwesteion hefyd am rôl y Brifysgol yn economi Cymru, gan ddysgu am arloesedd a datblygiad unigryw Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) fydd yn cynnal ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol o bwys.

Meddai’r Athro Rick Delbridge, Arweinydd Academaidd SPARK a Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Mae’r Brifysgol yn fentrus yn ei hymrwymiad i arloesedd er budd cymdeithasol, gan groesawu gwerth cyhoeddus economaidd, diwylliannol ac mewn meysydd eraill. Mae’r ymrwymiad o les i’r cyhoedd ac yn hynod berthnasol i’r broses o greu SPARK.

“Rydym am i SPARK fod yn fainc arbrofi ar gyfer arloesedd fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad yn rhyngwladol. Go brin y gallem fod wedi cael cynulleidfa well ar gyfer cyflwyno’r weledigaeth hon nag Ysgolheigion Marshall."

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau ac arian ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio gyda ni.