Ewch i’r prif gynnwys

SIOE yn dathlu gwyddoniaeth lled-ddargludyddion

13 Ebrill 2017

Compound semiconductor research equipment

Bydd cynhadledd sy’n edrych ar ddatblygiadau newydd yng ngwyddoniaeth lled-ddargludyddion yn dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos nesaf.

Mae SIOE (Optoelectroneg Integredig a Lled-ddargludyddion) 2017 yn dod â ffisegwyr, ymchwilwyr perthynol, cyllidwyr, y llywodraeth a busnesau ynghyd i astudio’r sector.

Mae’r gynhadledd tri diwrnod, sydd bellach yn ei 31ain flwyddyn, yn cynnig rhaglen gyffrous sy’n dangos esblygiad parhaus ymchwil, gan gynnwys rôl deunyddiau newydd.

Meddai'r Athro Peter Smowton, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Mae SIOE yn hen law ar rannu syniadau a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil a diwydiant...”

“Byddwn yn cynnal amrywiaeth o sesiynau sy’n trin a thrafod datblygiadau newydd gan gynnwys y rôl nodweddion deunyddiau wrth wella perfformiad dyfeisiau.”

Yr Athro Peter Smowton

Arbenigwyr blaenllaw ar draws y byd

Mae’r gynhadledd, a fydd hefyd yn cynnwys papurau ar ddatblygu laserau, tiwtorialau ffiseg a chyngor ar batentu, yn denu arbenigwyr blaenllaw ar draws y byd.

Bydd Mohamed Missous, Athro mewn Deunyddiau Lled-ddargludyddion a Dyfeisiau ym Mhrifysgol Manceinion yn y gynhadledd.

Meddai’r Athro Missous: “Mae SIOE yn llwyfan gwych ar gyfer pob math o waith ar draws technolegau lled-ddargludyddion newydd sy’n dod i’r amlwg. Roedd silicon yn arfer cefnogi’r gymdeithas wybodaeth ar un adeg, ond bellach mae ei ddefnydd yn dod i ben...”

“Mae cymhwyso arbenigedd ym maes lled-dargludyddion er mwyn cynhyrchu silicon yn amcan pwysig ar gyfer ffisegwyr yn y 21ain ganrif. Mae’n anochel y bydd digwyddiadau fel SIOE yn cyflymu’r broses.”

Mohamed Missous Athro mewn Deunyddiau Lled-ddargludyddion a Dyfeisiau ym Mhrifysgol Manceinion

Ym mis Hydref 2016, dyfarnwyd £10m i Brifysgolion Caerdydd, Manceinion, Sheffield a Choleg Prifysgol Llundain gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (ESPRC) i ddod ag academyddion a diwydiant y DU ynghyd mewn canolfan arbenigedd ar led-ddargludyddion.

Researcher looking at compound semiconductor

Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio’r Ganolfan Gweithgynhyrchu ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC - yn edrych ar ddeunyddiau, prosesau a thechnolegau newydd, a fydd yn gallu gyrru rhwydweithiau’r dyfodol a darparu pŵer i ddyfeisiau’r 21ain Ganrif, o signal symudol di-wifr 5G i ddyfeisiau optegol arbennig o gyflym a fydd yn dod a ffibrau 10G i gartrefi.

Bydd y gynhadledd hefyd yn trafod gwaith datblygu CS-Connected - ecosystem newydd ar gyfer technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd sy’n canolbwyntio ar Gaerdydd.

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.